Helpwch i Achub Bywydau drwy Roi Gwaed yr Hydref hwn

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo a Gwesty'r Copthorne ym mis Medi a mis Hydref. 

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu dros 350 o roddion gwaed bob dydd.  Gellir rhannu un rhodd i mewn i wahanol gydrannau, felly gellir ei defnyddio mewn gwahanol ffyrdd.

Gall unrhyw un rhwng 17 a 66 oed, sy'n pwyso dros 7 stôn 12 pwys (50kg), sy'n iach ac nad yw'n destun gwaharddiadau meddygol penodol, wirfoddoli i fod yn rhoddwr gwaed.

Gwnaeth rhoddion gwaed mis Gorffennaf helpu 21,000 cleifion yng Nghymru.

Mae'r rhoddion hyn yn helpu i ddarparu'r triniaethau sydd eu hangen ar gleifion ar gyfer eu gofal, o helpu mamau a babanod newydd-anedig i helpu cleifion canser drwy eu triniaethau cemotherapi.

Diwrnodau rhoi ym Mro Morgannwg: 

Os nad ydych yn siŵr a allwch roi, ewch i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru i gadarnhau - Cadarnhau pwy sy'n gymwys.

Canolfan Gelfyddydau Memo, Y Barri 

  • Dydd Llun 06 Medi 2021
  • Dydd Mawrth 07 Medi 2021
  • Dydd Gwener 17 Medi 2021
  • Dydd Llun 20 Medi 2021
  • Dydd Gwener 24 Medi 2021
  • Dydd Mercher 29 Medi 2021
  • Dydd Mercher 06 Hydref 20211
  • Dydd Llun 11 Hydref 2021
  • Dydd Iau 21 Hydref 2021

Ystafell y Castell, Gwesty'r Copthorne

  • Dydd Iau 02 Medi 2021
  • Dydd Mawrth 21 Medi 2021
  • Dydd Mercher 22 Medi 2021
  • Dydd Iau 23 Medi 2021
  • Dydd Gwener 29 Hydref 2021

Trefnu apwyntiad  

Os hoffech roi gwaed, ewch i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru i drefnu apwyntiad.  

Trefnu Apwyntiad

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am roi gwaed, gallwch weld Cwestiynau Cyffredin ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru:

Cwestiynau Cyffredin