
16 Ebrill 2021
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod i gyd yn dda ac wedi mwynhau rhywfaint o'r tywydd heulog a welsom yr wythnos hon.
Hoffwn ddechrau'r neges hon gan ddiolch yn fawr i'r holl staff sydd wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddychwelyd pob disgybl yn llwyddiannus i ysgolion a cholegau yr wythnos hon. Dim ond sylwadau cadarnhaol rwyf wedi’u clywed am y newid hwn o ddysgu o bell i wyneb yn wyneb ac mae nifer ohonoch sydd wedi chwarae rhan yn hynny o beth; o staff mewn ysgolion i'n hadran addysg ac mewn mannau eraill. Diolch yn fawr, rwy'n siŵr ei bod wedi bod yn wych gweld cynifer o ddisgyblion yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.
Rwyf hefyd yn hapus i allu rhannu rhywfaint o'r ganmoliaeth y mae ein cydweithwyr wedi bod yn ei chael dros yr wythnos diwethaf.
Yn gyntaf, rwyf wedi derbyn dau e-bost ar wahân yn canmol tîm y Dreth Gyngor. Ysgrifennodd un preswylydd i ddiolch i'r staff sydd wedi delio â'i ymholiadau diweddaraf, er nad oedd yn gwybod eu henwau, roedd am ysgrifennu i ddweud bod y staff bob amser yn 'eithriadol o gwrtais a hwyliog a dymunol'. Dywedodd hefyd fod pobl yn aml yn barod iawn i gwyno ac yn araf i'w canmol felly roedd yn meddwl y byddai'n braf i staff wybod ei fod wedi ysgrifennu i rannu ei sylwadau cadarnhaol gyda mi. Ac i roi ei ddiolch i'r tîm.
Ysgrifennwyd yr ail e-bost i ddiolch i Jack Punter am ei gymorth gyda theulu sy'n mynd drwy newidiadau amrywiol mewn amgylchiadau. Mae'r e-bost yn darllen,
'Mae Jack wedi bod yn hynod o gymwynasgar. Mae'n gwrtais, yn ddeallus ac yn amyneddgar; Roeddwn i eisiau rhoi hynny'n ysgrifenedig gan ei fod wedi bod yn help mawr yn ystod cyfnod llawn straen.'
Da iawn Jack a holl dîm y Dreth Gyngor am eich gwaith caled, sy'n aml yn gwneud gwahaniaeth mawr ond sy'n mynd heb ganmoliaeth gyhoeddus.
Y ganmoliaeth arall y mae'n rhaid i mi ei rannu yw i Ben Winstanley. Mae Ben wedi bod yn cynorthwyo gyda nifer o brosiectau adeiladu proffil uchel yn ddiweddar, gan gynnwys marchnata y Cymin ym Mhenarth ar gyfer prydles hirdymor. Ysgrifennodd un cynigydd posibl a siaradodd â Ben am y prosiect ataf i fynegi ei ddiolch am gefnogaeth Ben i esbonio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer dyfodol y Cymin yn ystod ymweliad safle’n ddiweddar. Ysgrifennodd,
'Roedd Ben, yn syml, yn ardderchog. Hoffwn i i ragor o bobl yn lleol allu cael cyfle i glywed Ben yn siarad am ddyfodol y Cymin.'
Diolch, Ben, am gynrychioli'r Cyngor mewn modd rhagorol ar y prosiect hwn. Gwaith gwych.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r staff yn ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth a fydd yn gweithio ar ochr arall morglawdd Bae Caerdydd y penwythnos hwn, gan helpu i glirio gwastraff gwyrdd yng Nghaerdydd, o ganlyniad i ôl-groniad yn eu casgliadau. Rydym bob amser wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol cyfagos i helpu i wella bywydau trigolion ar draws y rhanbarth cyfan ac mae hon yn enghraifft dda arall o'n cydweithwyr yn mynd yr ail filltir yn enw gwasanaeth cyhoeddus da.
Hoffwn hefyd ddefnyddio'r cyfle hwn i atgoffa'r holl staff mai dim ond un wythnos sydd ar ôl i gwblhau'r arolwg lles staff. Rydym wedi cael ychydig dros hanner nifer yr ymatebion a gasglwyd gennym yn ystod yr arolwg diwethaf, ac rwyf am fynegi pwysigrwydd rhannu eich barn â ni. Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn llywio rhywfaint o'n gwaith adfer, megis paratoi ar gyfer staff sydd wedi bod yn gweithio gartref i ddychwelyd i adeiladau swyddfa i weithio, bydd hefyd yn ein helpu i'ch cefnogi'n well gyda'ch anghenion lles ac addasu rhai o'n harferion. Mae'r arolwg yn agored i holl weithwyr y Cyngor, gan gynnwys staff sy'n gweithio yn ein hysgolion.
Reolwyr y mae eu timau'n gweithio o bell ac efallai nad oes ganddynt fynediad at liniadur neu ddyfais gwaith, rhannwch y ddolen hon gyda'ch timau a'u hatgoffa y gellir cael gafael arni drwy Staffnet+ ar unrhyw ddyfais, hyd yn oed ffonau symudol personol. Mae dolen bwrpasol i'r Arolwg Lles Staff ar hafan Staffnet+ er hwylustod. Diolch i'r rheini ohonoch sydd eisoes wedi rhoi o'ch amser i gwblhau'r arolwg.

Hoffwn orffen y neges hon gydag un diolch arall – i'r swyddogion sydd wedi bod yn ymwneud ag adnewyddu'r ardal chwarae ym Mharc Gwledig Cosmeston, a fydd yn ailagor i'r cyhoedd y penwythnos hwn. Mae hwn yn ychwanegiad ardderchog at gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr holl waith caled sydd wedi digwydd y tu ôl i'r llenni i wireddu’r prosiect hwn. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno bod y lluniau'n siarad drostynt eu hunain wrth arddangos eu gwaith. Da iawn.
Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos ymlaciol a bod y tywydd yn parhau’n braf.
Cadwch yn ddiogel,
diolch yn fawr.
Rob