Staffnet+ >
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr cyn penwythnos Gŵyl Banc y Pasg

01 Ebrill 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod i gyd yn dda ac wedi cael cyfle i fwynhau rhywfaint o'r tywydd cynhesach a gawsom yr wythnos hon.
Wrth i ni nesáu at benwythnos Gŵyl Banc y Pasg, roeddwn am roi'r neges hon i'n holl weithwyr rheng flaen a fydd yn parhau i weithio drwy gydol gŵyl y banc i gadw ein gwasanaethau hanfodol ar waith.
I enwi rhai, bydd ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdogaeth yn parhau i weithio i sicrhau bod ein parciau a'n cyrchfannau yn lân ac yn daclus i bawb eu mwynhau a bydd ein criwiau gwastraff ac ailgylchu yn gweithio ddydd Gwener a dydd Llun i sicrhau nad oes unrhyw oedi i gasgliadau. Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, bydd ein cydweithwyr yn parhau i ofalu am ein preswylwyr sy'n agored i niwed. Yn ein llyfrgelloedd, bydd staff yn gweithio dros y penwythnos gan barhau i gynnig digwyddiadau o bell yn ogystal â gwasanaethau clicio a chasglu. A rhaid i ni gofio ein Timau Gorfodi ar y Cyd a fydd yn patrolio cyrchfannau er mwyn sicrhau bod pobl yn ufuddhau i fesurau parcio diogel ac yn cadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â sicrhau bod busnesau'n gweithredu fel y dylent o dan y cyfyngiadau presennol. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond mae'n rhoi rhywfaint o fewnwelediad i'r timau a'r gwasanaethau sy'n parhau i weithredu i gadw ein trigolion a'n cymunedau'n ddiogel.
Mae'n dristwch i mi ddweud bod y tywydd braf wedi dod â rhywfaint o ymddygiad anffodus ynghyd ag ef. Mae rhai meinciau parc yn ein Parciau Gwledig wedi'u difrodi gan farbeciws a thanau. Cafwyd nifer o adroddiadau hefyd am ymddygiad gwrthgymdeithasol a thorri'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n gwahardd yfed alcohol mewn nifer o'n cyrchfannau. Ac mae lluniau wedi'u rhannu o sbwriel yn cael ei adael ar ôl ar Ynys y Barri a llawer o'n parciau, er gwaethaf y cannoedd o finiau a ddarparwyd, yn ogystal â biniau olwynion, y mae ein timau'n eu gwagio drwy gydol y dydd.
Fodd bynnag, roeddwn yn falch o dderbyn e-bost gan aelod o staff a gerddodd ar hyd y traeth yn gynnar fore Mercher ac a adroddodd nid yn unig am ein tîm cyrchfannau yn casglu sbwriel ar hyd y traeth ond aelodau eraill o staff hefyd a oedd yn digwydd bod allan yn cerdded neu a wnaeth ymweliad arbennig â'r traeth i gefnogi'r timau. Rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonoch chi am roi o'ch amser i sicrhau bod ein traethau'n aros yn lân ac yn daclus.
Rwy'n gwybod bod nifer o'n staff yn hynod falch o weithio i Gyngor Bro Morgannwg ac yn drigolion lleol sy'n ymfalchïo yn ein cymunedau hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn gweithredu fel modelau rôl a llysgenhadon ar gyfer ein sefydliad a gobeithio y bydd eraill yn dilyn eich esiampl.
Yn ogystal â'n gwasanaethau rheng flaen, rydym hefyd yn ddyledus i'n timau cefn swyddfa sy'n hanfodol i gadw ein holl wasanaethau ar waith ac ar y nodyn hwn rwyf hefyd yn falch o rannu neges o ganmoliaeth a gefais yr wythnos hon i'r adran TGCh. Ysgrifennodd un cydweithiwr,
‘Mae'r Adran TGCh wedi gwneud gwaith hollol anhygoel drwy gydol y pandemig. Maent wedi mynd i drafferth eithriadol i ysgogi'r gweithlu cyfan o dan amgylchiadau anodd a digynsail iawn dros y flwyddyn ddiwethaf a hoffwn ddiolch iddynt am eu holl ymdrechion.
'Rwy'n gwybod eu bod wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i sicrhau bod eu gwasanaeth yn cael ei ddarparu a fyddai, heb y cymorth hwn, wedi dioddef a byddai'r effaith ar staff a'r cyhoedd yn ehangach wedi bod yn enfawr. Roeddwn yn meddwl eu bod yn haeddu sylw gan ein bod yn canolbwyntio'n gwbl briodol ar waith pwysig iawn y gwasanaethau rheng flaen ond weithiau mae angen ychydig o ganmoliaeth ar y gwasanaethau cefn swyddfa hefyd.
Diolch, Rachael am roi o'ch amser i ganmol eich cydweithwyr, ac i'n hadran TGCh am eich ymdrechion parhaus i'n cadw ni i gyd i weithio!
I gloi, hoffwn gyfeirio eto at yr Arolwg Lles Staff a fydd yn aros ar agor tan 23 Ebrill i sicrhau bod cynifer ohonoch â phosibl yn gallu ymateb. Bydd hyn yn llywio rhywfaint o'n gwaith cynllunio adfer yn ogystal â lles yn y dyfodol felly cymerwch ychydig funudau i ddweud eich dweud, os nad ydych eisoes wedi’i wneud. Mae cannoedd o gydweithwyr eisoes wedi ymateb a byddai'n wych ychwanegu at y ffigur hwnnw.
Gobeithio y byddwch i gyd yn mwynhau eich penwythnosau gŵyl y banc neu unrhyw amser i ffwrdd yr ydych wedi'i gynllunio dros wyliau'r Pasg. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel!
Diolch yn fawr,
Rob.