Staffnet+ >
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr 30 Ebrill

30 Ebrill, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio bod popeth yn iawn ar ddiwedd yr hyn sydd wedi bod yn wythnos brysur arall. Yn y neges yr wythnos hon hoffwn dynnu sylw at rai meysydd o'n gwaith wrth ganu clodydd, fel bob amser, rai o'r timau sy’n gwneud y gwaith hwnnw.
Yn gyntaf, yr wythnos hon yw Wythnos Gwelededd Lesbiaid, yr ydym wedi bod yn ei chefnogi drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig i ni fel cyflogwr ac fel sefydliad cyhoeddus hyrwyddo materion sy'n dod â'n gwerthoedd o fod yn agored, yn uchelgeisiol, yn gweithio gyda'n gilydd ac yn falch o'n gwaith, yn fyw. Rwy'n falch bod gennym rwydwaith cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+, GLAM, i yrru'r agenda hon yn ei blaen. Rwyf hefyd yn gwylio gyda diddordeb i weld sut y bydd y Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei lunio yn y dyfodol agos ac roeddwn yn falch o glywed bod eu cyfarfod lansio yn ddiweddar wedi mynd yn dda.
Mae ein Tîm Byw'n Iach hefyd wedi arddangos ein gwerthoedd drwy eu gwaith yn ddiweddar. Yn ystod y cyfnod cloi, maent wedi gorfod meddwl am ffyrdd creadigol o gefnogi lles eu defnyddwyr gwasanaeth. Yn ddiweddar, penderfynodd grŵp o ddefnyddwyr gwasanaethau ymgymryd â'r her o gerdded pellter Wal Fawr Tsieina, gan gofnodi eu milltiroedd yn rhithiwr. Nawr bod cyfyngiadau'n dechrau llacio, maent hefyd wedi gallu cefnogi teithiau cerdded grŵp bychain ledled y Fro hefyd. Mae peth o'r adborth gan y grŵp hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rwy'n gwybod bod y Tîm Byw'n Iach hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi, a chyllido, rhai o'r sesiynau gweithgarwch corfforol rhithwir yr ydym wedi gallu eu cynnig i staff drwy ein rhaglen Eich Lles / Eich Iechyd. Am hynny a'ch holl ymdrechion, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi gyd – diolch o galon.
Mae ein timau gwastraff hefyd wedi cael eu cydnabod yn ddiweddar am eu gwaith rhagorol yn cefnogi ein trigolion i allu ailgylchu dros 70% o'r gwastraff cartref a gasglwn yn gyson ac mae'r ffigur hwn yn parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Daeth y BBC i weld sut mae'r gweithrediad hwn yn gweithio ac ymwelon nhw hefyd â'r orsaf trosglwyddo gwastraff yn y Bont-faen lle caiff ein hailgylchu ei ddidoli cyn cael ei gludo i wahanol safleoedd ledled y DU i'w ailgylchu. Edrychaf ymlaen at weld y darn gorffenedig ar wefan y BBC cyn bo hir. Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i Colin Smith, ei holl oruchwylwyr a staff rheng flaen am eu gwaith rhagorol dros y 18 mis diwethaf. Ar brydiau, nid oedd yn hawdd symud i ailgylchu ar wahân wrth ymyl y ffordd ond mae'n sicr wedi bod yn werth chweil.
Un o’r rhannau mwyaf gweledol o’n gwaith fel Cyngor yw datblygiad aruthrol ysgolion newydd. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Whitmore yn dod ymlaen yr wythnos nesaf, gan symud i'w hadeilad ysgol newydd sbon gwerth £30.5 miliwn. Hoffwn ddymuno pob lwc i chi gyda'r symud a gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cyfleusterau newydd.
Yn gysylltiedig â hyn, hoffwn longyfarch Tîm Ysgolion yr 21ain ganrif, AECOM, ISG Construction, Morgan Sindall Construction a Bouygues UK Construction am eu Gwobr GO. Enillodd eu prosiect Buddion Cymunedol yng nghategori Cyflawni Caffael Gorau. Mae'r timau dan sylw i gyd wedi cydweithio ar draws cymunedau Dysgu Uwchradd y Barri a phrosiectau Ysgolion Cynradd Gorllewin y Fro i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith, defnyddio cadwyni cyflenwi lleol ar draws eu prosiectau a sicrhau bod buddion cymunedol ehangach yn cael eu cyflawni ochr yn ochr ag adfywio ein hystâd ysgolion. Da iawn i bawb sy'n cymryd rhan, enillwyr haeddiannol iawn ac mae'r wobr hon yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae ein gwaith yn ei wneud ar draws Bro Morgannwg.
Yn olaf, hoffwn ddymuno pob lwc i Debbie, Vicky, Gareth, eu tîm cofrestru etholiadol a'r holl staff sy'n ymwneud â'r etholiad yr wythnos nesaf. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn heriol dros ben wrth drefnu popeth o dan amgylchiadau eithriadol ac rwy'n gobeithio y bydd popeth yn mynd yn dda yr wythnos nesaf.
Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o sut mae #TîmyFro wedi gweithio gyda'i gilydd yn ddiweddar i ddangos ein gwerthoedd ac rwy'n hynod falch o'ch holl waith.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau penwythnos gŵyl y banc. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel!
Diolch yn fawr,
Rob.