MD message header

09 Ebrill 2021

Annwyl gydweithwyr,

Gobeithio y cawsoch chi i gyd benwythnos hir braf dros y Pasg ac y bu modd i chi dreulio peth amser i ffwrdd o'r gwaith gyda theulu neu ffrindiau. Rhoddodd yr egwyl amser i mi fyfyrio ar bopeth sydd wedi digwydd ers dechrau'r flwyddyn ac fel bob amser, bu’n bleser edrych yn ôl ar yr hyn y mae ein cydweithwyr wedi'i gyflawni. 

Mae dychwelyd pob disgybl i'r ysgol ddydd Llun ac ailagor llawer mwy o siopau a busnesau wyneb yn wyneb eraill yn teimlo fel pwynt allweddol arall yn ein hadferiad ni i gyd wedi pandemig Covid-19, ac un rydym wedi'i gyrraedd i raddau helaeth diolch i ymdrechion llawer o'n staff a'r rhai sy'n gweithio i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus. 

Gwn fod ein cydweithwyr yn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol wedi bod yn gweithio'n agos gydag ysgolion a darparwyr gofal plant yn ystod yr wythnosau diwethaf i helpu i sicrhau bod ganddynt fesurau ar waith sy’n diogelu rhag Covid i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo rhwng plant a phobl ifanc.

Mae ein timau gofal cymdeithasol mewn cartrefi preswyl ac yn y gymuned wedi bod yn parhau i ddilyn y canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn llym er mwyn cadw preswylwyr a'u teuluoedd yn ddiogel. Ochr yn ochr â hyn, mae ein cydweithwyr yn y Tîm Gorfodi ar y Cyd rhanbarthol wedi bod ar batrôl mewn cyrchfannau poblogaidd i sicrhau bod y bobl sy'n ymweld yn cael gwneud hynny ac yn ymddwyn yn synhwyrol. 

Mae'r gwaith i gefnogi ein partneriaid yn y Bwrdd Iechyd gyda’r rhaglen frechu wedi parhau dros wyliau'r Pasg, gyda dos cyntaf y brechiad wedi’i chynnig i bob person 50+ oed (a'r rhai â chyflyrau iechyd isorweddol). Mae cynnydd y rhaglen frechu yn eithriadol ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf yma am y rhaglen ac am sut y caiff y grwpiau oedran nesaf eu galw.

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain ac rwy'n gwybod bod llawer mwy o aelodau Tîm y Fro yn gwneud gwaith hanfodol. Ynghyd ag ymdrechion y cyhoedd, mae'r gwaith hwn wedi helpu i ostwng cyfraddau Covid yn y Fro i rai o'r isaf yn y wlad. I gadw’r cyfraddau’n isel wrth i gyfyngiadau’r cyfnod cloi gael eu llacio, mae profion Covid-19 bellach ar gael i breswylwyr Caerdydd a’r Fro sy'n profi ystod ehangach o symptomau fel blinder, myalgia (poen cyhyrol), dolur gwddf, cur pen, trwyn yn llifo, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd. Gellir trefnu profion ar-lein yn y ffordd arferol. Nid oes angen i unrhyw un sy'n cael prawf oherwydd bod ganddo un o'r symptomau ar y rhestr estynedig ynysu wrth aros am ganlyniad y prawf, dim ond os yw canlyniad y prawf yn gadarnhaol. 

O edrych ar feysydd eraill ein gwaith, rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod prysur iawn i'n Tîm Cofrestru Etholiadol. Daeth y cyfnod i ben ddydd Iau ar gyfer enwebu ymgeiswyr etholiad cyfun y Senedd a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a gaiff ei gynnal ar 06 Mai. Mae'r tîm wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed nid yn unig i gynllunio logisteg yr etholiad ac i wneud yn siŵr bod preswylwyr wedi cofrestru ac yn gallu pleidleisio, ond hefyd i sicrhau bod hyn i gyd yn cael ei wneud mewn modd sy'n ddiogel rhag Covid.

O ystyried nifer y pleidleiswyr a'r gorsafoedd pleidleisio yn y Fro a bod angen cyfrif dros dri diwrnod yn hytrach nag un ac mewn lleoliad newydd, mae rhywun wir yn gwerthfawrogi’r ymdrech fawr sydd ei hangen i gynnal yr etholiad. Mae hefyd yn enghraifft arall o gydweithwyr o lawer o dimau ac adrannau - TGCh, Eiddo, Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyfathrebu a llawer mwy - yn dod ynghyd yn un tîm i wneud y gwaith. Diolch i bawb sydd ynghlwm.

Fel bob amser mae gan bleidleiswyr amrywiaeth o opsiynau ar gyfer bwrw eu pleidlais – yn bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan fel dirprwy. I unrhyw un sy'n ystyried pleidleisio'n wahanol eleni, y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost yw 20 Ebrill, a 27 Ebrill am bleidlais drwy ddirprwy. Hoffwn atgoffa unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Pafiliwn Pier Penarth bod amser eto i ddweud eich dweud ar sut y caiff ei ddefnyddio yn y dyfodol drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus a ddaw i ben yr wythnos nesaf. 

Ac yn olaf, hoffwn ddweud Ramadan Mubarak wrth y cydweithwyr a fydd yn mwynhau amser gyda'u teuluoedd wrth ddilyn trefn mis sanctaidd Islam sy'n dechrau ddydd Llun. Diolch fel bob amser i'r holl staff am eu hymdrechion.

Ac i'r rhai ohonoch sy'n darllen hwn fore Llun ar ôl seibiant haeddiannol: croeso'n ôl!

Rob.