Cawson ni sgwrs gyda Sue ar Teams yr wythnos hon i gael gwybod sut mae ei rôl newydd yn mynd, yr hyn y bydd yn gweithio arno a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Helo Sue, braf cwrdd â chi. Ers pryd ydych chi wedi bod yn gweithio i’r Fro?
Diolch. Dechreuais i ddydd Mawrth. Mae'n amser rhyfedd i fod yn dechrau rôl newydd gan fod y rhan fwyaf o bobl, gan gynnwys fy nhîm, yn gweithio o gartref felly alla i ddim cerdded o gwmpas a chyflwyno fy hun i dimau eraill yn yr adran a rhoi wynebau i enwau. Ond rwy'n siŵr y bydda i’n dod i adnabod y tîm cyn bo hir, llwyddon ni i gael sgwrs gyflym ar Teams ddoe.
Am her! Pa heriau eraill rydych yn meddwl y byddwch yn eu hwynebu oherwydd y sefyllfa bresennol?
Wel, gwnes i gais am y swydd yng Nghyngor Bro Morgannwg gan roeddwn i’n teimlo bod angen her newydd arna i ac roedd angen i mi weithio i sefydliad mwy, wedi gweithio i Gymdeithas Tai Valleys to Coast ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ond o ran yr heriau mae Covid yn eu cyflwyno, bydda i’n mynd i'r afael â sut rydyn ni’n bwriadu darparu gwasanaethau iechyd, diogelwch a lles i staff ar draws y Cyngor ac yn ein hysgolion. Wrth i ni nesáu at yr hydref mae gennyn ni bryderon penodol ynghylch tymor y ffliw a sicrhau bod iechyd a lles staff wrth wraidd y ffordd rydyn ni’n ymateb i'r pandemig. Bydda i hefyd yn bwynt cyswllt i ysgolion, gan gydgysylltu ag AAP ac Iechyd Cyhoeddus Cymru rhag ofn y bydd unrhyw achosion neu glystyrau. A mynychu cyfarfodydd POD. Mae gennyn ni swydd wag o fewn y tîm ar hyn o bryd felly rwyf eisoes wedi dechrau llunio rhestr fer ar gyfer honno. Cefais hefyd wybod fod angen adolygu ychydig o bolisïau, felly mae digon i’w wneud!
Ew, mae’n swnio fel eich bod chi wedi cael dechrau da ac y byddwch yn brysur iawn. Beth yw eich cynlluniau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth? Oes unrhyw bethau newydd yr hoffech eu cyflwyno?
Yn fy rôl flaenorol, fe wnes i greu glasbrint o'r gwasanaethau y gallen ni eu cynnig i'r sefydliad drwy gwblhau ymarfer mapio o'r tîm. Hoffwn wneud rhywbeth tebyg yma fel ein bod yn glir ynglŷn â'r gwasanaethau a gynigiwn a phwy sy'n gyfrifol am beth o fewn y tîm. Hoffwn hefyd gyflwyno polisi desg glir sy’n rhywbeth mae timau eraill yn ei weithredu. Rwy'n credu, o ystyried y sefyllfa bresennol, y bydd hyn yn ei gwneud yn llawer haws i fannau gwaith gael eu glanhau ar ddiwedd pob dydd.
Mae'n swnio fel bod gennych lawer o syniadau gwych a digon i’w wneud, felly fe wnawn ni adael i chi i fynd yn ôl i weithio. Diolch am eich amser, Sue a phob lwc yn eich rôl newydd.
Cadwch olwg ar fwy o wybodaeth am fentrau iechyd a lles staff, a gaiff ei rhannu’n fuan iawn.