Llythyr yn cyhoeddi lansiad y Strategaeth Trechu Camfantesio Newydd

Annwyl gydweithwyr,

Mae’n bleser gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro gyhoeddi lansio Strategaeth newydd Trechu Camfanteisio. Mae'r strategaeth yn nodi ymrwymiad Byrddau Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro i fynd i'r afael â chamfanteisio. 

Mae’r asiantaethau sy'n aelodau o'r Bwrdd yn cydsefyll i:

  • Atal camfanteisio
  • Diogelu a chefnogi'r rhai y mae camfanteisio’n effeithio arnynt
  • Dilyn ac amharu ar gyflawnwyr a throseddwyr
  • Paratoi pawb yn ein cymunedau ledled Caerdydd a'r Fro i ymateb i gamfanteisio.

Mae'r model hwn yn galluogi dull cyfannol o fynd i'r afael ag achosion camfanteisio a’u canlyniadau. Mae'r model yn gweithio’n rhagweithiol i atal camfanteisio a diogelu'r rhai a allai fod mewn perygl ohono. Mae hefyd yn galluogi mynd ar drywydd y rhai sy'n achosi'r niwed mwyaf.

Mae gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro strategaeth camfanteisio ar y cyd ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl. Caiff cynllun gweithredu ei ddatblygu i bennu blaenoriaethau a nodi camau gweithredu i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth hon ar gyfer y rhanbarth erbyn mis Medi 2020.

Darllenwch y strategaeth lawn yma.

Cofion,

Lance Carver 

Claire Marchant