Diwrnod Gwelededd Deurywioldeb

Bob blwyddyn mae Diwrnod Gwelededd Deurywioldeb yn codi ymwybyddiaeth o fod yn ddeurywiol, heriau i bobl ddeurywiol ac anwybyddu deurywioldeb. 

Pam fod angen Diwrnod Gwelededd Deurywioldeb arnom?

Dydy anghenion a phrofiadau pobl ddeurywiol ddim yn cael yr un ystyriaeth â rhannau eraill o’r gymuned LHDT ac maen nhw’n aml yn teimlo’n anweledig. 

Mae hefyd rai ystrydebau negyddol fel bod pobl ddeurywiol yn methu â phenderfynu, yn farus, neu heb y gallu i fod mewn perthynas driw.

Gall sut y caiff pobl ddeurywiol eu gweld gael effaith negyddol ar eu bywydau a’i gwneud yn anos iddynt fod yn nhw eu hunain â theulu a ffrindiau. Mae hyn yn arwain at lefel uchel o bryder a lefel is o hapusrwydd a boddhad bywyd o’i gymharu â phobl lesbaidd, hoyw a strêt. 

Yn ei dro, mae hyn yn ei gwneud yn bwysig iddynt deimlo eu cefnogi, eu sicrhau a’u derbyn. 

Beth allwn ni ei wneud?

Dysgu am brofiadau pobl ddeurywiol a’r heriau unigryw maen nhw’n eu hwynebu. Dathlwch hunaniaethau amrywiol, codwch leisiwch pobl ddeurywiol, a safwch dros newid cadarnhaol.

Mae gan wefan Stonewall nifer o adnoddau lle gallwch ddysgu mwy. Mae Stonewall yn cydnabod modelau rôl bob blwyddyn, ac eleni, Charles Wild ddaeth yn Fodel Rôl Deurywiol y Flwyddyn. 

Yng Nghymru, bydd cyfarfod Bi Cymru agored i gynghreiriaid.  Mae’n gyfarfod agored i gynghreiriaid ac unrhyw un sy’n cefnogi pobl ddeurywiol. Digwyddiad am ddim yw hwn ond rhaid cadw lle.

 

Tocynnau Eventbrite

Digwyddiad Facebook

Gallwch hefyd ymuno â GLAM, ein rhwydwaith i staff a chynghreiriaid LHDT y Cyngor.