Staffnet+ >
Neges pwysig gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

16 Hydref 2020
Annwyl gydweithwyr,
Rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed mwy a mwy am drafodaethau ynghylch "toriad cylched" posibl yn cael ei gyflwyno yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i gynnydd parhaus o ran achosion o'r Coronafeirws yn y wlad. Ein dealltwriaeth ni yw bod Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen hyn ac y gallai ddarparu rhagor o wybodaeth am hyn yn ystod y sesiwn friffio amser cinio heddiw neu yn ystod y dydd.
Fe wnes i a’r Arweinydd gwrdd â'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill ddoe ochr yn ochr ag Arweinwyr a Phrif Weithredwyr awdurdodau lleol eraill i ystyried a thrafod y sefyllfa bresennol yng Nghymru a'r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wrth geisio atal y twf o ran lledaeniad covid-19. Mae'n amlwg mai un o'r opsiynau sy'n cael ei ystyried yw 'toriad cylched' fel y'i gelwir a dychwelyd i gyfyngiadau cenedlaethol am gyfnod, o bosibl rhwng 2 a 3 wythnos. Yn syth ar ôl y cyfarfod â'r Prif Weinidog, fe wnaethom gyfarfod fel Tîm Arweinyddiaeth Strategol i ystyried y goblygiadau i'r sefydliad a hefyd ein cymunedau a'n trigolion sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau. Bydd llawer yn dibynnu ar y llwybr a ddilynir yn genedlaethol, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym fwy o wybodaeth.
Am y tro, a hyd nes y clywch fel arall, cofiwch fod cyfyngiadau lleol a gyflwynwyd ym mis Medi yn parhau i fod ar waith ym Mro Morgannwg ac yn ardaloedd ein hawdurdodau cyfagos. Felly, cadwch at y cyfyngiadau lleol drwy beidio â theithio y tu allan i'ch sir gartref, oni bai bod eich taith yn un hanfodol, a dim ond cwrdd â phobl o'r tu allan i'ch aelwyd yn yr awyr agored. Mae pob un ohonom yn gyfrifol am gymryd y camau hyn a thrwy wneud hynny rydym yn helpu ein gilydd, ein teuluoedd a'n cymunedau i gadw'n ddiogel.
Er ein bod yn gweithio mewn amgylchiadau mor anarferol, mae'n hanfodol ein bod ni’n blaenoriaethu ein lles. Cofiwch gymryd seibiannau rheolaidd drwy gydol y dydd. Wrth i'r nosweithiau fynd yn dywyllach cofiwch ei bod yn dderbyniol ac yn bwysig iawn gwneud amser yn ystod y dydd i gymryd seibiant a gwneud ymarfer corff. Mae Staffnet+ yn cynnwys llu o wybodaeth am eich Lles a byddwn yn annog pob un o’n cydweithwyr i gael cipolwg.
Wrth i’r hanner tymor nesáu, rwyf yn ymwybodol y bydd rhieni unwaith eto'n cydbwyso gofynion gofal plant â gwaith. Cofiwch, wrth weithio gartref, y gallwch weithio'n hyblyg o amgylch anghenion eich teulu.
Fel awdurdod lleol, rydym wedi ymateb yn eithriadol o dda i'r heriau y mae'r pandemig hwn wedi'u cyflwyno dros y saith mis diwethaf ac mae gennyf bob ffydd y byddwn yn parhau i wneud hynny cyhyd ag y bydd angen camau gweithredu ymatebol. Byddwch wedi gweld y newyddion yr wythnos hon fod pedwar o'n cydweithwyr wedi cael eu cydnabod am eu gwasanaeth yn ystod y pandemig. Derbyniodd Deborah Crow, Swyddog Gweinyddu Ysgolion, Louise Jones, Gweithiwr Cymdeithasol, Sharon Miller, Cydlynydd Rhanbarthol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Adam Clode, Gofalwr Ysgol, y gydnabyddiaeth fel rhan o restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a hoffwn gymryd y cyfle hwn i’w llongyfarch am eu gwaith arbennig. Mae'r anrhydeddau hyn yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol a'r gwerth y mae ein gwaith yn ei wneud i'n cymunedau.
Yn yr un modd, mae'n braf iawn gweld ein tîm Parciau unwaith eto'n cael ei gydnabod am ei waith rhagorol gyda pharciau'r Cyngor yn derbyn deg gwobr baner werdd eto eleni. Mae Bro Morgannwg yn adnabyddus am ein mannau awyr agored rhagorol ac mae pwysigrwydd y rhain yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod presennol.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i chi i gyd am barhau i weithio mor effeithlon ac am gydbwyso gofynion darparu gwasanaethau bob dydd â'r heriau y mae Covid-19 yn eu cyflwyno. Rhaid i ni barhau i gydweithio i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, fel bob amser, wrth i'r sefyllfa ddatblygu ac mae'n debygol iawn y byddwch yn clywed gennyf eto mewn ychydig ddyddiau ar y camau nesaf wrth i ni barhau i ddelio â'r pandemig hwn. Cadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr,
Rob Thomas