Staffnet+ >
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr 23 Hydref

Annwyl Gydweithwyr,
Fel y soniais yn fy neges ddydd Mercher, rydyn ni i gyd wedi ymateb yn gyflym unwaith eto i'r cyfyngiadau newydd a ddaw i rym heno. Hoffwn ddiolch i bawb am weithio'n gyflym i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaethau sydd â blaenoriaeth mewn ffordd ddiogel i'n trigolion.
Wrth i wythnos brysur arall ddirwyn i ben, roeddwn am ganolbwyntio'r neges hon ar les staff ac ambell stori newyddion cadarnhaol sydd wedi dod i'm sylw yr wythnos hon.
Cwrddais ddoe â phob Pennaeth Gwasanaeth a'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol a chytunon ni i gyflwyno ystod arall o fentrau lles i’n cydweithwyr i gyd.
Gan ddechrau'n fuan iawn, byddwn yn cynnig cyfres o weithgareddau i staff gymryd rhan ynddynt, naill ai yn ystod y dydd neu gyda'r nos, i gefnogi eu hiechyd a'u lles. Cynigir amrywiaeth o weithgareddau am ddim i gyflogeion gan gynnwys:
- Sesiynau yoga ac ymestyn;
- Clwb llyfrau;
- Sesiynau hiit;
- Sgyrsiau ar faeth;
- Gweithdy 'Rydyn ni'n Gwneud i Bethau da Ddigwydd'; a
- Chwis misol.
Bydd cydweithwyr Adnoddau Dynol hefyd yn diwygio rhai o'r adnoddau sydd gennym ar Staffnet+ ac iDev i gefnogi staff sy'n gweithio gartref.
Edrychwch ar Staffnet+ i gael rhagor o fanylion a byddaf hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi'n rheolaidd.
Gan barhau â thema iechyd a lles, mae mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Gyda llai o sesiynau sgrinio’n cael eu cynnal eleni oherwydd Covid-19, mae'n bwysicach nag erioed eich bod yn gwirio eich bronnau. Os sylwch ar unrhyw beth anarferol neu os oes gennych unrhyw bryderon am symptomau, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu ar unwaith. Mae cysgodfa orllewinol Ynys y Barri wedi'i goleuo’n binc yr wythnos hon i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o'r achos pwysig hwn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i longyfarch ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cyfreithiol sydd wedi'u hailachredu'n ddiweddar gyda safon ansawdd ymarfer Lexcel ar gyfer gofal cleientiaid, cydymffurfio a rheoli ymarfer. Llwyddodd y gwasanaeth mewnol i gyflawni'r achrediad er gwaethaf amgylchiadau anodd ac asesiad 3 diwrnod dwys gan Gymdeithas y Gyfraith. Da iawn bawb fu ynghlwm wrth y gwaith.
Rwy’n falch iawn hefyd bod y tîm sy’n gyfrifol am Wasanaeth Rhianta'r Fro wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddan nhw’n cystadlu yn erbyn dau awdurdod lleol arall yn y categori Creu Dyfodol Disglair gyda phlant a theuluoedd. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn rhithiol ar 10 Tachwedd. Dymunaf bob lwc i chi yn y gwobrau. Llongyfarchiadau ar gael eich rhoi ar y rhestr fer ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddigwyddiad llwyddiannus i Gyngor Bro Morgannwg.
Gwn y bydd y pythefnos nesaf yn heriol am lawer o resymau, ond os byddwn yn llwyddo i arafu lledaeniad Coronafeirws ledled Cymru, gallem weld mesurau cenedlaethol llai llym yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf.
Parhewch i fod yn fodelau rôl ar gyfer ein cymunedau a dilyn rheolau’r cyfnod atal. Mae’n gam pwysig yn ein brwydr yn erbyn Coronafeirws.
Mae'r Arweinydd wedi rhyddhau datganiad y prynhawn yma i'n trigolion yn nodi’r hyn mae'r cyfyngiadau'n ei olygu a sut y bydd y Cyngor unwaith eto'n gweithio’n galed i helpu'r rhai y mae angen ein cefnogaeth arnyn nhw. Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n galed i gefnogi ein cydweithwyr.
Diolch am eich gwaith caled a'ch ymroddiad, ac - yn bwysig iawn - am ofalu am eich gilydd.
Diolch yn fawr. Cadwch yn ddiogel.
Rob