MD message header

Annwyl Gydweithwyr,

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, a'r neges gan yr Arweinydd a minnau i chi Ddydd Llun, roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y camau rydym wedi'u cymryd, fel awdurdod lleol, i baratoi ar gyfer y mesurau atal am gyfnod byr, a ddaw i rym o 6pm ddydd Gwener.  

Yn union ar ôl cyhoeddiad y Prif Weinidog Ddydd Llun, cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd rhwng y Tîm Arweinyddiaeth Strategol a'r Cabinet i drafod yr effaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn eu cael ar wasanaethau'r Cyngor ac i gytuno ymhle y byddai rhai gwasanaethau'n dod i ben dros dro. O ganlyniad, gallaf gadarnhau'r newidiadau canlynol i wasanaethau a fydd ar waith o 6pm y dydd Gwener yma tan ddydd Llun 9 Tachwedd:

  • Bydd ysgolion – meithrin, cynradd, ysgolion arbennig a disgyblion blwyddyn 7 ac 8 ysgolion uwchradd yn dychwelyd i'r ysgol yn dilyn hanner tymor (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd a disgyblion hŷn yn dychwelyd ar gyfer arholiadau yn unig). Ar gyfer disgyblion hŷn, gwneir darpariaeth ar gyfer dysgu ar-lein o'r cartref.  Yr ydym yn aros am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru a chaiff hyn ei rannu â'n cyd-Aelodau yn Dysgu a Sgiliau a'n hysgolion cyn gynted â phosibl.  

  • Bydd llyfrgelloedd, gan gynnwys gwasanaethau clicio a chasglu a dosbarthu, yn cau.

  • Bydd dosbarthiadau dysgu oedolion yn y gymuned yn parhau ond byddant yn cael eu darparu o bell. 

  • Dim ond ymweliadau hanfodol â chartrefi gofal a ganiateir a hynny drwy eithriad.

  • Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cau

  • Bydd gorfodi yn newid i ganolbwyntio ar gydymffurfio â mesurau cloi yn hytrach na materion amgylcheddol.

  • Bydd gwasanaeth bws cymunedol Greenlinks yn cael ei atal.

  • Gall seremonïau priodas fynd rhagddynt ond heb unrhyw ddathliadau i ddilyn.  Disgwylir canllawiau pellach ar hyn.   

  • Ni fydd digwyddiadau'n mynd rhagddynt ac eithrio unrhyw wasanaethau coffâd bychain sydd wedi'u trefnu a hynny Ddydd Sul 8 Tachwedd ac wedi hynny. Mae hyn yn cynnwys pob digwyddiad wedi'i drefnu o amgylch Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, er enghraifft. 

  • Bydd gwasanaethau derbynfeydd ac wyneb yn wyneb yn dod i ben a gofynnir i breswylwyr gael cyngor a gwasanaethau ar-lein neu ffonio C1F.

  • Dim ond ar gyfer y nifer fach o staff swyddfa na all weithio gartref y bydd adeiladau swyddfa'r cyngor ar agor.  Sicrhewch eglurder ar hyn gyda'ch rheolwr llinell os nad ydych yn siŵr.

  • Bydd lleoliadau gofal plant, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu rhedeg o ganolfannau cymunedol, yn parhau ar agor.

  • Bydd parciau, mannau chwarae, parciau gwledig a chyrchfannau, gan gynnwys meysydd parcio, yn parhau i fod ar agor i drigolion lleol eu defnyddio i ymarfer corff. However, please note that exercise must begin and end at home. Fodd bynnag, nodwch fod yn rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref.

  • Bydd toiledau cyhoeddus yn aros ar agor.

  • Bydd casgliadau sbwriel ac ailgylchu, gan gynnwys casgliadau eitemau swmpus, yn parhau. 

Mae gwefan y Cyngor yn cael ei diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau hyn a bydd ein cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i rannu gwybodaeth bwysig am wasanaethau yn ogystal â gwybodaeth am y cyfyngiadau.  Os nad ydych yn siŵr sut y gallai'r cyfyngiadau cloi effeithio ar eich gwasanaeth, siaradwch â'ch rheolwr.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi set ddefnyddiol o Gwestiynau Cyffredin sy'n darparu gwybodaeth am y cyfyngiadau.

Drwy gydol y cyfnod hwn mae'r rhaid i’r rhai sy'n gallu gwneud, weithio o gartref. Deallaf y bydd hyn yn her i lawer, yn enwedig yn ystod hanner tymor.  Byddwn yn eich annog i weithio'n hyblyg o amgylch anghenion eich teuluoedd a chymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, gan ddefnyddio gwyliau blynyddol, lle gallwch wneud hynny.  Fel bob amser, trafodwch eich trefniadau gweithio gyda'ch rheolwr llinell.  

Fel y disgrifiodd yr Arweinydd a minnau Ddydd Llun, y nod o gyflwyno'r cyfyngiadau hyn nawr yw lleihau nifer yr achosion o coronafeirws a derbyniadau i'r ysbyty. Os byddwn i gyd yn glynu'n gaeth i’r cyfyngiadau hyn nawr, mae'n bosibl iawn y byddwn mewn cyfnod o gyfyngiadau ychydig mwy hamddenol dros y Nadolig. 

Yfory, bydd Tîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor yn cyfarfod â phob Pennaeth Gwasanaeth i drafod amrywiaeth o fentrau i gefnogi llesiant staff. Mae hyn mewn ymateb i'r arolwg llesiant a gynhaliwyd gennym dros yr haf, rhai o'r awgrymiadau sydd wedi deillio o'm sesiynau holi ac ateb gyda staff ac adborth gennych chi i'ch rheolwyr. Er enghraifft, rydym yn edrych ar gynnal cyfres o sesiynau gweithdai o bell i staff ar amrywiaeth o bynciau gwahanol.  Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn yn fy neges i chi Ddydd Gwener. 

Am y tro, hoffwn ddiolch i chi gyd sydd unwaith eto'n addasu gwasanaethau'n barod ar gyfer dychweliad byr at gyfnod clo. Pan ddaeth ein cyfarfod i ben brynhawn Llun, gofynnodd aelodau'r Cabinet imi ddiolch i'r holl staff am gadw i fynd a ninnau saith mis i mewn i bandemig byd-eang, ar drothwy cyfnod cloi arall ac yn wynebu heriau nad oes yr un ohonom wedi'u gweld o'r blaen. Hoffwn ategu eu teimladau a'u rhannu gyda chi. Mae ein cymunedau bellach yn disgwyl i bob un ohonom osod esiampl, dilyn y rheolau a helpu i gadw'r Fro a Chymru'n ddiogel. 

Diolch yn fawr. Cadwch yn ddiogel.

Rob