Staffnet+ >
Neges Diwedd yr Wythnos 30 Hydref 2020
Neges Diwedd yr Wythnos 30 Hydref 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n dda a’ch bod wedi gallu manteisio ar yr egwyl hanner tymor a chael rhywfaint o amser i ffwrdd o'r gwaith y mae mawr ei angen.
Hoffwn ddechrau neges yr wythnos hon drwy ganmol ein criwiau ailgylchu a gwastraff, ac yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar gyflwyno casgliadau ailgylchu wedi'u gwahanu yn y Barri. Rwy'n ymwybodol bod cyfraddau halogi o fewn yr ailgylchu a gasglwyd wedi gostwng 60% yn yr wythnos lawn gyntaf yn unig ac mae hyn yn newyddion rhagorol sy’n golygu y gallwn ailgylchu mwy a mwy o'n gwastraff. Gwn y gall cyflwyno gwasanaeth newydd neu wasanaeth sydd wedi newid ddod â llawer o heriau.
O'r adborth rydw i wedi’i weld, mae'r newid hwn wedi cael ei dderbyn yn dda iawn hyd yma ac mae hynny'n ganlyniad i'ch holl waith caled wrth baratoi ac addasu ar gyfer ffordd newydd o weithio yn ogystal ag adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd wrth gyflwyno’r newidiadau hyn i Fro Morgannwg Wledig y llynedd.
Rydw i a fy nghydweithwyr yn Nhîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor yn falch iawn o'r ffordd y mae'r gwasanaeth hwn wedi perfformio dros y blynyddoedd, yn enwedig wrth ragori'n gyson ar y targedau statudol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr y bydd preswylwyr unwaith eto'n dangos eu gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnewch yn ystod yr wythnosau nesaf oherwydd ei fod yn wasanaeth rheng flaen hanfodol yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Diolch bawb.
Hoffwn hefyd longyfarch Sophie O'Donovan, sydd newydd gwblhau ei Diploma mewn Cyfraith ac Ymarfer Llywodraeth Leol a chafodd ddyfarniad rhagoriaeth gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Cwblhaodd Sophie elfennau olaf y Diploma yn ystod y pandemig tra'n gofalu am ei dau blentyn ifanc ac yn gweithio'n llawn amser fel cyfreithiwr ar gyfer Gwasanaethau Plant. Da iawn Sophie, mae hynny'n gyflawniad rhagorol mewn amgylchiadau mor heriol.
Yr wythnos hon cyhoeddodd yr Arweinydd ddatganiad ynghylch digwyddiadau sydd ar y gweill. Mae Calan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt a Sul y Cofio i gyd yn digwydd o fewn y cyfnod atal.
Er na chaniateir y cymdeithasu arferol sy'n cyd-fynd â'r achlysuron hyn eleni, mae nifer o ffyrdd eraill y gellir eu nodi. Rydym yn cefnogi ymgyrch Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy'n annog teuluoedd i nodi'r digwyddiadau hyn yn ddiogel gartref.
Gwn na fydd y digwyddiadau hyn yr un fath â’r blynyddoedd blaenorol a'i bod yn demtasiwn mynd yn groes i’r rheolau am ychydig. Ond peidiwch. Bydd yr aberth tymor byr yr ydym i gyd yn ei wneud ar hyn o bryd yn werth chweil yn y tymor hwy. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am gynlluniau'r Cyngor ar gyfer Sul y Cofio yn fy neges yr wythnos nesaf.
Fel Awdurdod rwy'n falch ein bod hefyd yn cefnogi ymgyrch Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael 24/7 i'r rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/byw-heb-ofn am gyngor cyfrinachol.
Roeddwn yn falch iawn o ddarllen e-bost yr wythnos hon a anfonwyd at Paula Ham gan bennaeth Ysgol y Ddraig yn Llanilltud Fawr. Ysgrifennodd Ty Golding at Paula i fynegi ei ddiolch a'i werthfawrogiad am gefnogaeth aelod o staff – Keeva McDermott. Mae Keeva yn rheolwr cynhwysiant o fewn Dysgu a Sgiliau ac ynghyd â'i thîm, mae hi wedi cynnig cyngor ac arweiniad amhrisiadwy i ysgolion a theuluoedd drwy gydol y pandemig, gan ganolbwyntio ar faterion fel presenoldeb, addysg yn y cartref a phlant sy’n colli addysg.
Ysgrifennodd Ty, 'Yn syml, mae wedi darparu lefel o gymorth, mewnwelediad a gweithredu nad ydym wedi dod ar ei thraws o'r blaen. Mae hi'n ardderchog!'.
Da iawn i Keeva a'r tîm - cadwch i fynd gyda’r gwaith gwych.Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd wedi cael canmoliaeth a gwerthfawrogiad gan berson ifanc yn ddiweddar. Mae Tara Reddy a Rhys Jones yn rheoli gwasanaeth effeithiol a hanfodol i bobl ifanc ar draws yr ALl gyda staff proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n dda gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth gorau posibl-
"Roeddwn i eisiau dweud DIOLCH enfawr. Does gennych chi ddim syniad faint rydych chi wedi fy helpu i a fy nheulu. Heb eich cefnogaeth chi a'ch timau ni fyddwn wedi cyflawni’r cyfan rydw i wedi’i wneud yn academaidd, sy'n enfawr i'm datblygiad personol. Fel y gwyddoch efallai, cefais flwyddyn eithafol iawn y llynedd ac mae’r cymorth rydych wedi'i roi i mi gyda chyrsiau, cyngor, cymorth ariannol a’ch sylw wedi fy ngalluogi i gyflawni mwy nag yr oeddwn i wedi’i ddychmygu erioed er gwaethaf rhai rhwystrau dysgu.
Gobeithio y gall y tîm hwn barhau i helpu mwy o ddefnyddwyr gwasanaethau fel y mae wedi fy nghefnogi i. Diolch eto, er nad yw hynny'n teimlo’n ddigon."
Mae Y Daith, ein Huned Cyfeirio Disgyblion, hefyd wedi cael adborth gwirioneddol gadarnhaol gan Gonsortiwm Canolbarth y De ac Estyn (yr arolygiaeth) ar gyfer y cynnig dysgu ar-lein sydd wedi'i ddatblygu ers i'r pandemig daro. Mat Sweden yw'r Athro Cyfrifol yn Y Daith ac mae ef a'i dîm wedi gweithio'n galed i sicrhau bod rhai o'n disgyblion mwyaf agored i niwed wedi gallu cael profiadau addysgu a dysgu yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Yn yr un modd, mae Ysgol Uwchradd Whitmore hefyd yn arwain y ffordd wrth ddatblygu dull dysgu cyfunol ar gyfer disgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu model dysgu cyfunol cyson cryf iawn a ddilynir gan bob adran, gyda’r gallu i gynnig adborth ‘amser real’ i ddisgyblion ac ymgysylltiad cyson rhwng athrawon a disgyblion.
Mae'r ysgol wedi gallu dangos cynnydd amlwg yn ymgysylltiad disgyblion â dysgu o bell a rhithwir. Mae'r gweithdrefnau a'r arferion yn cael eu rhannu ledled y rhanbarth, gyda staff ysgolion i fod i gyflwyno eu hagwedd at Gonsortiwm Canol De'r wythnos nesaf. Mae'r wybodaeth hefyd yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru.
Da iawn Ysgol Uwchradd Whitmore am arwain y ffordd!
Yn olaf, hoffwn gloi’r neges hon gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran achosion Covid ym Mro Morgannwg. Mae'r ffigurau ar gyfer yr wythnos hon yn dangos cynnydd sylweddol mewn achosion ym Mro Morgannwg. Ar hyn o bryd mae gan 92 o bob 100,000 o drigolion achos wedi'i gadarnhau o Coronafeirws gyda phrofion yn dangos sgôr bositif o 9.2% dros y 7 diwrnod diwethaf.
Mewn rhai rhannau eraill o Gymru, mae'r cynnydd hyd yn oed yn fwy brawychus. Er i Brif Weinidog Cymru rybuddio na fyddem yn gweld gostyngiad mewn achosion positif yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod atal, mae'r ffaith bod achosion yn cynyddu yn dangos pa mor hanfodol bwysig ydyw i ni i gyd gadw at y rheolau a chwarae ein rhan i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Gyda'n gilydd, byddwn yn gwneud gwahaniaeth. Chwaraewch eich rhan. Rydw i a’r Arweinydd wedi cyfarfod â Gweinidogion a'n cymheiriaid o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yr wythnos hon i drafod y camau nesaf yn dilyn y cyfnod atal.
Rydym wedi cyflwyno ein sylwadau am yr hyn sy'n bwysig yn ein barn ni i Fro Morgannwg wrth symud ymlaen. Rydym yn disgwyl y wybodaeth ddiweddaraf gan Brif Weinidog Cymru ddydd Llun. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r sefyllfa fynd yn ei flaen, er bod llawer ohonoch wedi clywed eisoes y cyhoeddwyd heddiw nad ydym yn debygol o ddychwelyd at fesurau lleol penodol pan ddaw’r cyfnod atal i ben, ond yn hytrach fesurau cenedlaethol eraill. Am y tro, gobeithio y cewch i gyd benwythnos o orffwys.
Gofalwch amdanoch eich hunain a chadwch yn saff.
Diolch yn fawr.
Rob