Staffnet+ >
Neges Wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr
Neges Wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr
13 Tachwedd, 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Hon fu'r wythnos waith gyntaf ers i'r Cyfnod Atal Byr yng Nghymru ddod i ben. Mae busnesau wedi ailagor, fel y mae ysgolion i bob disgybl, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi set newydd o reolau ar waith.
Gwyddom i gyd o'n gwaith fod llawer o bobl wedi aberthu'n aruthrol i fyw o fewn y rheolau, ers i'r cyfnod clo cyntaf gael ei roi ar waith ym mis Mawrth.
Er bod llawer o sylw wedi bod yn y cyfryngau yr wythnos hon am frechlyn posibl, mae hyn yn dal i fod ymhell i ffwrdd i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth a rhaid inni beidio â chaniatáu i'r ymdrech rydym wedi'i gwneud gyda'n gilydd gael ei gwastraffu.
Er mwyn gwneud hynny, mae angen i bob un ohonom gymryd camau i gadw ein gilydd yn ddiogel, a rhaid inni oll barhau i fyw ein bywydau'n wahanol. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dylech gymryd amser i ddarllen y canllawiau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Mae profi ac olrhain effeithiol yn ganolog i'r ffordd y byddwn yn galluogi rhywfaint o fywyd normal i barhau drwy fisoedd y gaeaf. Ysgrifennais at yr holl staff yr wythnos diwethaf i'ch hysbysu bod uned profi symudol dros dro wedi agor yn y Barri.
Caeodd yr uned honno ddoe. Yn ystod cyfnod gweithredu arfaethedig yr uned o saith diwrnod, cynhaliodd y tîm dros 400 o brofion a bydd hyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran amddiffyn trigolion y Fro rhag perygl y feirws.
Hoffwn ddiolch i holl staff y cyngor a'r rhai yng ngwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Caerdydd a’r Fro a sefydlodd yr uned mor gyflym a'i rhedeg mor fedrus, ac wrth gwrs y preswylwyr hynny a chwaraeodd eu rhan i'n cadw'n ddiogel drwy gael prawf.
Er bod yr uned bellach wedi cau, mae'r risg i'n cymunedau yn sgil COVID-19 yn dal i fod yn bresennol. Mae nifer yr achosion yn y Fro, a'r profion sy'n gadarnhaol, yn parhau ymhell dros drothwyon rhybudd coch Llywodraeth Cymru sy'n arwydd bod yn rhaid i bob un ohonom barhau i gymryd y feirws o ddifri.
Mae'n parhau i fod o'r pwys mwyaf bod unrhyw un sydd â symptomau yn hunanynysu ar unwaith ac yn cael prawf. Mae staff y Cyngor yn weithwyr allweddol a gallant gael prawf drwy e-bostio covid-19testing@valeofglamorgan.gov.uk. I'n trigolion yn y Fro, gallant wneud hynny drwy unrhyw ganolfan brawf gyhoeddus, megis y ganolfan gyrru drwodd yn Lecwydd yng Nghaerdydd, neu drwy archebu pecyn prawf cartref.
Er mwyn helpu pawb i adnabod symptomau, yn enwedig rhieni a gofalwyr, rydym wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gynhyrchu a rhannu canllawiau fideo syml gyda meddygon teulu. Gallwch weld y fideos hyn ar ein tudalen Facebook a’n ffrwd Twitter.
Mae ymateb Cymru i COVID-19 hyd yma wedi bod yn llawn enghreifftiau o'r radd flaenaf o weithio mewn partneriaeth. Y diweddaraf o'r rhain yw'r Timau Gorfodi ar y Cyd sydd wedi dechrau gweithio o ddifri yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yng Nghaerdydd a'r Fro mae'r rhain yn cynnwys cydweithwyr o Heddlu De Cymru a'n staff Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir. Bydd y timau'n cymryd camau yn erbyn unigolion, busnesau ac eiddo trwyddedig sy'n amlwg yn methu â chydymffurfio â'r rheoliadau newydd neu'n eu torri dro ar ôl tro. Maent eisoes yn gweithio allan yn y gymuned.
Hoffwn roi teyrnged arbennig i Dave Holland, ein Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir, nid yn unig am ei waith i sefydlu'r timau hyn ond am bopeth y mae wedi'i wneud i gysylltu gwaith ein partneriaid o fewn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Mae Dave wedi arwain ei dimau gyda phroffesiynoldeb a hiwmor da ar adeg o her aruthrol. Diolch, Dave.
Ddydd Mercher yr wythnos hon cymerais ran yn seremoni flynyddol y cadoediad. Cafodd y digwyddiad gan gadw pellter cymdeithasol eleni ei reoli'n arbennig gan ein timau yn y Gwasanaethau Democrataidd ac Eiddo. Roedd eu gwaith cynllunio a'u gwaith caled trylwyr yn golygu bod y digwyddiad blynyddol pwysig hwn yn dal i gael ei nodi'n gyhoeddus a bod y cyn-filwyr a‘r ffigurau lleol sy'n dod at ei gilydd i dalu eu teyrngedau yn gallu gwneud hynny'n ddiogel. Darlledwyd y seremoni lawn yn fyw drwy Facebook a gellir ei gweld o hyd ar dudalen y Cyngor.
Tudalen Facebook Cyngor Bro Morgannwg
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu gwasanaethau newydd ar gyfer y byd digidol ôl-Covid a'r wythnos hon roeddwn yn rhan o lansiad llwyfan meddalwedd newydd o'r enw Cysylltu Cymru a fydd yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gysylltu â gwahanol sefydliadau yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys ein Cyngor ni a Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn ogystal â galluogi staff canolfannau cyswllt i weithio gartref. Mae ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r llwyfan ers dros flwyddyn ac rwy'n falch bod ein sefydliad ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y maes hwn. Llongyfarchiadau i Tony Curliss a'r tîm am wirioneddol yrru hyn yn ei flaen.
Mewn enghraifft wych arall o arloesi digidol mae'r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol eleni yn cael ei chyflwyno'n gyfan gwbl ar-lein. Mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi datblygu rhaglen o hyfforddiant, sgyrsiau a gweithdai sy'n agored i unrhyw un i ymuno ac yn berthnasol i gynulleidfa eang gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, ymarferwyr a rhanddeiliaid.
Wythnos Ddiogelu Genedlaethol
Mae'r wythnos nesaf hefyd yn Wythnos Twyll Ryngwladol ac mae ein tîm archwilio wedi dwyn ynghyd rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut mae'r Cyngor yn gweithio i atal twyll a rhywfaint o ganllawiau ar yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i gefnogi'r gwaith hwn.
Wythnos Twyll Ryngwladol
Gobeithio y gwelodd llawer ohonoch waith ein cydweithwyr yn cael ei amlygu ddydd Mawrth fel rhan o’r ymgyrch #councilscan ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yn wych gweld cynifer o gyflawniadau'n cael eu rhestru gyda'i gilydd mewn un lle, a gallwch ddarllen amdanynt i gyd ar StaffNet.
Councils Can
Hoffwn ddefnyddio'r neges hon i ffarwelio ag un o'n cydweithwyr sydd wedi bod yn gymwynaswraig fawr nid yn unig i Gyngor Bro Morgannwg ond i nifer fawr o drigolion y Fro hefyd. Mae Linda 'Rusty' Ruston yn ymddeol o'r sefydliad yr wythnos nesaf. Eleni mae Linda wedi bod yn allweddol i sicrhau bod gan ein staff rheng flaen y PPE sydd eu hangen arnynt ac i sicrhau bod y cleientiaid hynny a ddefnyddiodd ganolfan ddydd New Horizons cyn i'r pandemig daro i gyd wedi gallu cyrchu dewisiadau amgen. Gwn o siarad â llawer o gyd-Aelodau y bydd ysbryd byrlymus Linda a’i brwdfrydedd di-ben-draw yn cael eu colli'n fawr gan gydweithwyr a chleientiaid fel ei gilydd. Linda, ar ran y Cyngor dymunaf y gorau i chi ar gyfer y dyfodol.
Yn olaf, hoffwn atgoffa pawb y bydd y rhaglen o fentrau llesiant yr ysgrifennais atoch i gyd yn eu cylch Ddydd Mercher yn dechrau'r wythnos nesaf. Bydd 'Eich Lles / Eich Iechyd' yn canolbwyntio i ddechrau ar les corfforol. Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael, gan gynnwys sesiynau HIIT ac Yoga, a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â sesiynau wedi eu rhag-recordio. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y rhaglen yn ymdrin ag agweddau pwysig eraill ar lesiant, gan gynnwys iechyd meddwl. Hoffwn ddiolch eto i'r rhai sy'n ymwneud â datblygu'r rhaglen bwysig hon. Gellir gweld yr holl wybodaeth ar StaffNet+
Eich Iechyd
Yr wyf, wrth gwrs, yn cydnabod nad yw bob amser yn bosibl i bob un ohonom, megis y rheini sy'n gweithio yn rhai o'n rolau niferus sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid neu mewn gwasanaethau rheng flaen, gymryd amser allan yn ystod eu dyddiau gwaith penodol nhw. Nid yw byth yn bosibl dod o hyd i un dull sy'n gweithio i bawb mewn sefydliad mor amrywiol ac eang â'n sefydliad ni, gyda chymaint o rolau a gwasanaethau gwahanol. Fodd bynnag, hoffwn dawelu meddwl staff sy'n gweithio mewn rolau fel y rhain, ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod pob cyfle ar gael i gynifer o bobl â phosibl. Am y rheswm hwn, mae'r adnoddau ar StaffNet+ ar gael i bawb eu defnyddio ar adeg sy'n gweithio iddynt. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod cydweithwyr ar draws pob rhan o'r Cyngor yn gweithio'n galed i ddod o hyd i ffyrdd o barhau i gefnogi llesiant. Diolch am yr ymdrechion hyn. Os oes gennych enghreifftiau o'r gwaith hwn yn eich rhan chi o'n sefydliad, rydym yn eich croesawu i’w rhannu'r rhain. Hefyd, os oes gennych unrhyw syniadau ar sut y gallem gefnogi'r gwaith hwn yn eich gwasanaeth ac mewn rhannau eraill o'r Cyngor, cysylltwch â ni hefyd.
Diolch i chi gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon, am ofalu amdanoch chi eich hun a'ch gilydd. Cadwch yn ddiogel. Diolch yn fawr iawn.
Rob Thomas.