Dydd Llun 30 Tachwedd, 2020

Annwyl gydweithwyr,  

Heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau i'r mesurau cenedlaethol sydd ar waith i atal lledaeniad COVID-19 yng Nghymru.  

O 6pm ddydd Gwener, bydd ein mesurau cenedlaethol yn cael eu diwygio i gyflwyno cyfyngiadau newydd ar gyfer atyniadau lletygarwch ac adloniant dan do. Ni chaiff tafarndai, bariau, bwytai a chaffis werthu alcohol i'w yfed ar y safle ar unrhyw adeg ac er hynny, bydd rhaid iddyn nhw gau erbyn 6pm. Bydd lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr dan do hefyd yn cau.   

Bydd gweddill y mesurau cenedlaethol yn aros yr un fath – ni fydd unrhyw newidiadau i swigod cartrefi, faint o bobl sy'n gallu cyfarfod mewn mannau cyhoeddus dan do neu yn yr awyr agored nac i gyfyngiadau ar fusnesau eraill. Bydd y cyfyngiadau newydd ar waith tan 17 Rhagfyr o leiaf. 

Mae manylion llawn nawr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Yng nghyfarfod ein Tîm Arweinyddiaeth Strategol yfory, byddwn yn trafod sut y bydd y cyfyngiadau newydd yn effeithio ar wasanaethau unigol y Cyngor. Mae effaith y cyfyngiadau newydd ar wasanaethau'r Cyngor yn gyfyngedig ond bydd hyn yn effeithio ar rai. 

Fel Cyngor byddwn wrth wraidd yr ymdrech genedlaethol i gefnogi'r rhai y bydd y gyfres ddiweddaraf o gyfyngiadau yn effeithio arnynt. Ynghyd â'r holl awdurdodau lleol eraill, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am weinyddu'r Gronfa Busnes Cyfyngiadau newydd. Bydd y gwaith cynllunio ar gyfer y gwaith hwn yn dechrau ar unwaith.  

Mae'r ffaith bod angen cyfyngiadau ychwanegol cyn y Nadolig yn ei gwneud yn glir bod y feirws yn parhau i ledaenu yn ein cymunedau.  

Rwy’n gwybod bod byw a gweithio o fewn y cyfyngiadau cenedlaethol yn dod â heriau i bawb. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb o hyd i'n cymunedau i ddilyn y rheolau ond mae hefyd yn bwysicach nag erioed ein bod yn dod o hyd i ffyrdd o ofalu amdanom ein hunain a'n lles ein hunain o fewn y paramedrau hyn. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae nifer o weithgareddau ar-lein ar gael i staff drwy StaffNet+.  

Mae canllawiau helaeth hefyd am sut i adnabod symptomau COVID-19 a rhaid i mi atgoffa pawb hefyd o bwysigrwydd hunanynysu os ydych yn dangos unrhyw symptomau’r coronafeirws, cael prawf a pharhau i hunanynysu nes y ceir canlyniad y prawf. 

Hoffwn ddiolch unwaith eto i chi i gyd am eich ymdrechion i gefnogi'r ymdrech genedlaethol i amddiffyn y rhai mwyaf agored i'r pandemig.

Diolch yn fawr