Staffnet+ >
Neges diwedd yr wythnos gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

Annwyl Gydweithwyr,
Wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor yr hydref, rydym yn nesáu at fisoedd mwyaf heriol y gaeaf mewn hanes diweddar o bosibl. Hoffwn ddefnyddio fy neges yr wythnos hon i roi gwybod i chi am ein hymateb parhaus i'r pandemig COVID-19 ac i rannu rhai o'n straeon newyddion mwy cadarnhaol o'r wythnos diwethaf.
Er ein bod yn parhau i glywed newyddion calonogol am argaeledd brechlynnau Coronafeirws, mae llawer o waith i'w wneud i drefnu bod y brechlyn ar gael i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a gweithwyr rheng flaen allweddol. Y gobaith yw y gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a Bro Morgannwg fod mewn sefyllfa i gyflwyno brechlyn i'r bobl gyntaf a fyddai'n gymwys cyn y Nadolig. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r sefyllfa newidiol hon ddatblygu ac rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd am eu gwaith yn y maes hwn.
Er bod newyddion am frechlyn effeithiol yn gadarnhaol iawn, rhaid i ni gofio bod hyn ymhell i ffwrdd i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth. Yn y cyfamser, rhaid i ni barhau i feddwl yn ofalus am ein gweithredoedd a glynu wrth y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd.
Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein hysgolion, ein cartrefi gofal a'n cymunedau yn dal i fod ar lefelau uwch nag yr hoffem ei weld, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddiogelu ein gilydd a chadw ein cymunedau'n ddiogel.
Mae eleni wedi bod yn eithriadol o heriol i bob un ohonom mewn nifer o ffyrdd. Gyda hyn mewn golwg, mae fy nghydweithwyr Uwch Arweinwyr a mi bob amser yn chwilio am ffyrdd o gydnabod a diolch i'n staff. Rwy'n falch, felly, o rannu tudalen werthfawrogiad newydd sydd wedi'i datblygu ar Staffnet+. Mae'r dudalen hon yn galluogi rheolwyr i ddiolch i'n staff yn ogystal â rhoi cyfle i'n gweithlu roi clod i'w gilydd. Gall unrhyw un sydd â mynediad i Staffnet+ gyflwyno neges o ddiolch neu glod i gydweithiwr a byddwn yn eich annog i gyd i wneud hynny. Gwn o'r atebion a gaf yn rheolaidd i'r neges hon fod cydnabyddiaeth syml, diolch neu glod yn mynd ymhell ac yn cael ei werthfawrogi bob amser.
Yr wythnos hon, mae Gofalwn Cymru yn dathlu cydweithwyr sy'n gweithio ym mhob maes gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r enghreifftiau y maent wedi'u rhannu yn amlygu natur werthfawr gyrfa mewn gofal cymdeithasol. Rydym wedi cyflwyno rhai enghreifftiau ein hunain i'w cynnwys ar eu gwefan a ffrydiau’r cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch lygad allan am rai wynebau cyfarwydd.
Rwy'n falch hefyd o glywed bod y fenter Your Wellbeing/ Eich Iechyd yn mynd rhagddi'n dda, ac roedd rhai o'r sesiynau a gynhaliwyd yr wythnos hon yn llawn. Bydd y rhaglen hon yn parhau i ddatblygu dros y misoedd nesaf felly daliwch ati i ymweld â hyb Your Wellbeing / Eich Iechyd ar Staffnet+ i gael y newyddion diweddaraf. Yr wythnos nesaf cynhelir sesiwn lles ariannol drwy'r Caffi Dysgu. Bydd hyn yn digwydd ddydd Iau 26 Tachwedd am 11am. Gofynnir i’r rheiny sydd am gymryd rhan gadw eu lle cyn y sesiwn a hefyd llenwi arolwg cyfrinachol cyflym i lywio'r pynciau a drafodir yn y sesiwn. I unrhyw un sy'n methu mynychu'r sesiwn hon, mae ymgynghoriadau un i un hefyd ar gael ar y 3ydd, 4ydd a'r 7fed o Ragfyr. Hoffwn ddiolch i'r hyrwyddwyr lles a thîm y project am eu gwaith o ddod â’r fenter hon ynghyd a chadw'r project i fynd.
Diolch i chi gyd am eich ymdrechion parhaus mewn amgylchiadau anodd. Rwy'n gwybod ei bod wedi bod yn 8 mis hir ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith yr ydych wedi'i wneud i gadw'r sefydliad hwn i fynd a darparu gwasanaethau hanfodol.
Cadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr.
Rob