Staffnet+ >
Neges diwedd yr wythnos gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

27 Tachwedd 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod i gyd wedi cael wythnos dda.
Cafwyd newyddion cadarnhaol pellach yr wythnos hon am ddatblygu brechlynnau gyda llawer o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau mewn perthynas â datblygu gwahanol fathau o frechlynnau COVID-19 a phryd y gallai'r rhain fod ar gael. Felly, mae'n amserol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio ar gyfer cyflwyno rhaglen frechu ar draws Bro Morgannwg a Chaerdydd ac ar gyfer brechu rhai o staff y Cyngor.
Mae'r sefyllfa'n symud yn gyflym ac mae cynlluniau gweithredol ar gyfer brechu torfol y rhai sydd fwyaf agored i COVID-19 yn ein cymunedau, ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a gweithwyr allweddol eraill yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd.
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio ac yn parhau i weithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar sawl agwedd ar yr ymateb rhanbarthol i COVID-19 ac mae hyn yn cynnwys darparu brechlyn pan fydd ar gael.
Bydd angen canolfan frechu ym Mro Morgannwg ac mae Canolfan Hamdden Holm View wedi'i nodi fel y lleoliad posibl gan ei bod yn bodloni'r holl feini prawf a bennwyd gan y Bwrdd Iechyd. Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yn ffurfiol y brydles i Fwrdd Iechyd Canolfan Hamdden Holm View at y diben hwn ddydd Llun (30/11/20).
Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn gweld rhaglen imiwneiddio torfol ar raddfa ddigynsail. Mae cynlluniau'n datblygu'n gyflym, ond bydd y rhain, wrth gwrs, yn cymryd amser i'w cyflawni ac mae brechu aelodau o'r cyhoedd ar raddfa fawr yn dal i fod beth amser i ffwrdd.
Mae'r newyddion am frechlyn ar gyfer COVID-19 wrth gwrs i'w groesawu'n fawr, ac yn dod ar ddiwedd y flwyddyn sydd wedi gweld y feirws yn dominyddu ein bywydau i gyd. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â mynd yn ddifater am y peth.
Mae'n bwysig ein bod i gyd, dan yr holl amgylchiadau, yn parhau i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn sicrhau ein bod yn ymbellhau'n gymdeithasol, yn golchi ein dwylo'n rheolaidd ac yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.
To help support our residents in staying safe in the run up to the Christmas period, our Regeneration team have launched a new shop-safe campaign in the Vale’s town centres. The team has been facing up to the challenges throughout the pandemic and colleagues have been working hard to support local businesses while also keeping the Vale safe from COVID-19.
Er mwyn helpu i gefnogi ein trigolion i gadw'n ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae ein tîm Adfywio wedi lansio ymgyrch siopa’n ddiogel newydd yng nghanol trefi'r Fro. Mae'r tîm wedi bod yn wynebu'r heriau drwy gydol y pandemig ac mae cydweithwyr wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi busnesau lleol tra hefyd yn cadw'r Fro'n ddiogel rhag COVID-19.
O'r wythnos nesaf, bydd arwyddion diogelwch coronafeirws newydd yn cael eu gosod yng nghanol trefi Bro Morgannwg ar ffurf gorchuddion bolardiau. Drwy helpu ymwelwyr â chanol ein trefi i ddeall yn well sut i gadw ei gilydd yn ddiogel a chymryd cyfrifoldeb am eu diogelwch eu hunain, rwy'n credu eu bod wedi dod o hyd i'r cydbwysedd cywir. Mae'r canllawiau ar geisio ymweld â chanol trefi ar adegau llai poblogaidd, cadw ein pellter a gwisgo gorchuddion wyneb pan fyddant dan do yn rhywbeth y dylem i gyd roi sylw iddynt pryd bynnag yr ydym allan.
Os gallaf, byddwn hefyd yn eich annog i ystyried siopa'n lleol ar gyfer y Nadolig eleni, i gefnogi ein manwerthwyr lleol ym Mro Morgannwg. Mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymuned fusnes leol ac mae gennym fanwerthwyr rhagorol ar garreg ein drws.
Prin bod wythnos yn mynd heibio heb weld gwaith ein cydweithwyr yn cael ei gydnabod gan eraill. Hoffwn longyfarch a dymuno pob lwc i dri o'n cydweithwyr addysg sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol. Tracy Mills a Gavin Packer sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, tra bod Yvonne Hawkins o Ysgol Gynradd Palmerston wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Rheolwr Ysgol/Bwrsariaeth. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni rithwir ddydd Sul. Pob lwc i chi.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r staff hynny sydd wedi rhoi o'u hamser i roi clod i’w cyd-aelodau drwy'r dudalen gwerthfawrogiad newydd ar Staffnet+. Mae wedi bod yn hyfryd darllen y negeseuon sydd wedi'u rhannu hyd yn hyn ac mae wir yn gwneud i mi werthfawrogi’r tîm gwych sydd gennym yn y Fro. Os nad ydych wedi gwneud hynny eto, byddwn yn eich annog i gymryd golwg ar y dudalen a gadael neges i gydweithiwr.
Fel y gwnaethom y llynedd, byddwn hefyd yn cyhoeddi calendr adfent ar Staffnet+ ac ar y Cyfryngau Cymdeithasol i dynnu sylw at rai o'n cyflawniadau niferus eleni. Rwyf wedi gweld rhywfaint o’r gwaith cynnar ar hyn ac mae'n adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith yr ydym wedi'i gyflawni drwy gydol y flwyddyn, er gwaethaf yr amgylchiadau anoddaf.
Mae hefyd yn dangos ymroddiad a brwdfrydedd yr holl gydweithwyr sy'n gweithio ar draws ein sefydliad. Bydd yr uchafbwyntiau hyn yn cael eu rhannu o'r 1af i'r 24ain o Ragfyr felly cadwch lygad amdanynt. Rwy'n gobeithio y bydd hon yn ffordd gadarnhaol o fyfyrio ar flwyddyn heriol i ni i gyd.
Cadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr.
Rob