Staffnet+ >
Mae Arwyr Enfys o bob lliw a llun
Mae Arwyr Enfys o bob lliw a llun
Pan glywch y term gweithwyr gofal, mae'n hawdd meddwl am y rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal ac yn ein cymunedau, yn cynorthwyo trigolion oedrannus neu anabl. Fodd bynnag, mae nifer enfawr o staff yn gweithio ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n darparu mathau eraill o ofal a chymorth.
Dydd Mawrth 26 Mai 2020
Ar hyn o bryd mae Jude McManus yn rheoli'r Gwasanaeth Gofal Hirdymor a'r Timau Adolygu, sydd yn Nhŷ Jenner.
Cysylltodd Jude â ni yn ddiweddar i ddweud wrthym sut y maen nhw wedi addasu i weithio gartref, wrth gynnal safon y gwasanaeth y mae trigolion y Fro sy'n derbyn y cymorth yn ei disgwyl.
Allwch chi ddweud ychydig wrthym ni am waith eich tîm dros yr wythnosau diwethaf?
Tîm o weithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gofal cymdeithasol a swyddog gofalwyr ydyn ni.
Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth i aros gartref, gweithredodd ein tîm broject i gael syniad o beth byddai ei angen ar bobl pe effeithid ar eu trefniadau gofal a chymorth arferol mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i'r pandemig, a pha gynlluniau wrth gefn yr oedd angen eu rhoi ar waith.
I wneud hyn, cysylltodd ein tîm â 1,000 o unigolion, eu gofalwyr, a'u darparwyr gofal a chymorth dros y ffôn i bennu cynllun wrth gefn ar gyfer pob unigolyn a gefnogir gan y Fro. A gwnaethom hyn oll wrth weithio o gartref mewn amgylchiadau gwahanol iawn.
Buom yn gweithio ochr yn ochr â'r asiantaethau gofal i gael eu barn am lefel y risg sydd ynghlwm wrth ostyngiad mewn trefniadau gofal a chymorth.
Yna cysylltwyd ag unigolion a'u teuluoedd i drafod a chytuno ar gynllun amgen derbyniol a oedd yn adlewyrchu'r hyn a oedd yn bwysig ganddynt. Bu eu cyfraniad a'u cyfranogiad yn hanfodol i unrhyw drefniadau a gawsai eu haddasu.
Buom hefyd yn archwilio gydag unigolion a fyddai unrhyw un arall yn eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymunedau, yn gallu helpu gydag unrhyw rai o'r trefniadau gofal a chymorth lle bo hynny'n rhesymol.
Canolbwyntiodd ein sgyrsiau ar agweddau allweddol ar les, sef sut y gallai pobl aros yn ddiogel, lleihau niwed, cadw'n iach a bod yn actif yn eu cartrefi eu hunain.
Ystyriom hefyd sut y gallai pobl gynnal perthynas gadarnhaol ac osgoi cael eu hynysu, a sut y gallai pobl fyw mor annibynnol â phosibl o fewn y trefniadau wrth gefn.
Drwy wneud y gwaith hwn, rydym yn teimlo ein bod wedi helpu pobl i aros gartref er mwyn achub bywydau a diogelu'r GIG.
Ble rydych chi arni o ran y project hwn bellach?
Heddiw, mae 98 o gynlluniau gofal a chymorth wrth gefn ar ôl i’w cwblhau, ac rydym yn disgwyl y cânt eu cwblhau erbyn diwedd yr wythnos hon. Mae hyn yn golygu y byddwn wedi cysylltu â phob un o'r 1,000 o breswylwyr.
Rydym wedi gallu rheoli'r cymorth sydd ei angen drwy weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau, unigolion a'u teuluoedd i gytuno ar drefniadau wrth gefn.
Bu’n hanfodol bwysig ein bod yn gallu ymateb yn gyflym i'r pandemig a llwyddiant y prosiect fu’r cynllunio blaengar i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu'n gyflym os yw Covid–19 yn effeithio ar allu'r gweithlu i ddarparu'r trefniadau gofal arferol.
Diolch Jude, rydym yn cytuno bod eich tîm yn haeddu clod am fod yn #ArwyrEnfysyFro.