Budd-daliadau yn ystod y cyfnod cloi

Yn dilyn neges y Rheolwr Gyfarwyddwr i staff yr wythnos ddiwethaf, lle cawsant eu crybwyll yn arbennig, rydyn ni wedi siarad ag Elyn o’r tîm budd-daliadau i ddysgu ychydig mwy o ran sut mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar eu gwaith nhw.  

Dydd Gwener 15 Mai, 2020

 

Yn gyntaf oll, beth mae’r adran budd-daliadau yn ei wneud?

Mae’r Adran Budd-daliadau yn delio gyda Budd-dal Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor (a ddisodlodd Fudd-dal y Dreth Gyngor yn 2013), Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn, a Phrydau Ysgol Am Ddim. Rydym yn adran ar wahân i adran y Dreth Gyngor - nhw sy’n codi’r taliad, ni sy’n helpu i dalu!

 

Sut mae’r pandemig wedi effeithio ar yr adran?

Y newid mwyaf i’r adran heb os oedd newid o weithio yn y swyddfa i weithio o gartref. Yn ffodus, rydyn ni wedi cael gweithwyr gartref yn yr adran ers mwy na degawd, felly mae gennym ni brofiad a gwybodaeth o ran yr hyn sydd ei angen ac a ddisgwylir - o gyfarpar i gyfathrebu.

Cafodd ein timau eu sefydlu i weithio gartref yn eithaf cyflym ar ôl cael gafael ar drwyddedau gan yr adran TG ac mae’r staff wedi addasu’n dda i’r ffordd newydd o weithio, ond rydyn ni hefyd yn cadw nifer ofynnol o staff yn y swyddfa, sy’n glynu’n llwyr wrth reolau ymbellhau cymdeithasol.


Beth am eich llwyth gwaith?

Rydyn ni wedi cael lefelau digynsail o hawliadau newydd ar gyfer Credyd Cynhwysol ledled y wlad, ac nid yw Bro Morgannwg wedi ei heithrio o hyn.

Rydyn ni wedi cael tua 740 o hawliadau newydd rhwng 16 o Fawrth a 12 o Fai, ynghyd â 1281 o rybuddion am hawliadau newydd ar gyfer Credyd Cynhwysol.Mae hyn i’w gymharu ag oddeutu 390 o geisiadau a 342 o rybuddion am hawliadau newydd ar gyfer yr un cyfnod y llynedd.


Refeniw a Budd-daliadau

Rydyn ni wedi talu dros £4 miliwn ar ffurf budd-daliadau tai a thaliadau tai yn ôl disgresiwn i denantiaid preifat, tenantiaid cymdeithasau tai a thenantiaid y cyngor ers 16 o Fawrth.Felly mae ein llwyth gwaith wedi dyblu! Ac am fod y system budd-daliadau yn un gymhleth ac yn newydd i lawer, rydyn ni wedi cael nifer enfawr o ymholiadau drwy e-bost, drwy’r post a thros y ffôn. 


Dylwn i nodi mai mis Mawrth ac Ebrill yw’r rhai prysuraf o’r flwyddyn i ni fel arfer beth bynnag, felly gyda hawliadau ychwanegol, newidiadau i reoliadau a’n prosesau diwedd blwyddyn arferol mae’n deg dweud bod y tîm wedi bod yn eithriadol o brysur a’u bod wedi gweithio mewn amgylchiadau hynod heriol, a dyma pam yr oedden ni’n dymuno iddyn nhw gael eu crybwyll a chael diolch yn neges y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Revenues and Benefits