Staffnet+ >
Ateb yr alwad i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y Coronafeirws
Ateb yr alwad i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y Coronafeirws
Mae Matt Curtis, Rheolwr Projectau Ysgolion yr 21ain Ganrif, wedi cyfnewid cynllunio strategol am ofal preswyl yn ystod y pandemig Coronafeirws
Dydd Mercher 6 Mai, 2020
Mewn cyfweliad diweddar gyda Bro Radio yn dathlu ein Harwyr Enfys, esboniodd Matt pam yr oedd yn teimlo rheidrwydd i gefnogi gwasanaeth rheng flaen.
“Un noson, roeddwn yn gweithio gartref a gwelais ar ein tudalennau gwe mewnol ein bod yn chwilio am wirfoddolwyr i gael eu hadleoli mewn meysydd allweddol. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gallu ail-flaenoriaethu fy ngwaith er mwyn rhyddhau amser, felly llenwais i ffurflen ar unwaith," meddai Matt.
"Fy mhrif reswm oedd fy mod i'n gymharol ifanc a dydw i ddim yn dod i gysylltiad â phobl sy'n gwarchod nac sydd yn oedolion agored i niwed. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig fy mod i’n cynnig fy hun ar gyfer y meysydd gwasanaeth pwysig hyn gan wybod y byddent yn cael trafferth ar yr adeg hon.
"Dywedais yr awn i unrhyw le mwy neu lai a'r alwad gyntaf a gefais oedd gan y gwasanaethau cymdeithasol yn dweud eu bod yn bwriadu hyfforddi pobl i gael eu hadleoli, ac yn gofyn a fyddai gennyf ddiddordeb mewn cael golwg ar yr hyn roedd ganddynt i'w gynnig?
"O fewn ychydig ddyddiau, roeddwn ar gwrs yn dysgu am godi a chario a’r holl offer y maent yn ei ddefnyddio yn y gwasanaethau cymdeithasol.
“Wedi hynny fe ffonion nhw yn gofyn a fyddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw un o'r rolau ac fe ddywedais i, 'yn bendant'. Y dewis oedd rhwng mynd i gartrefi trigolion i’w cefnogi neu weithio yn un o’r pedwar cartref gofal preswyl sydd yn y Fro.
“"Penderfynais y byddwn yn cefnogi un o'r cartrefi gofal preswyl a Thŷ Dewi Sant ym Mhenarth oedd y cartref gofal hwnnw. Rwy'n rhoi meddyginiaeth i'r preswylwyr ac yn archebu meddyginiaeth fel y gallwn sicrhau bod gennym ddigon yn ystod y cyfnod hwn. Rwyf hefyd wedi helpu i ddatblygu cynlluniau wrth gefn a deall y risg sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws."
Mae Matt yn un o nifer o aelodau staff sydd wedi cynnig cefnogi gwasanaeth rheng flaen yn ystod y pandemig. Y staff hynny, yn ogystal â'r gweithlu rheng flaen presennol yr ydym ni fel Cyngor yn eu dathlu gyda'n hymgyrch Arwyr Enfys.
Wythnos diwethaf dadlennon ni gyfres o arwyddion sydd wedi'u cynllunio'n arbennig i’w gosod mewn lleoliadau amlwg ar hyd a lled y Fro, yn diolch yn arbennig i'r grwpiau sy'n gwneud mwy na’r gofyn yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn.
"Mae'r holl staff sy'n gweithio yn y cartrefi gofal, yn ofalwyr, yn weithwyr y ceginau neu'n ofalwyr domestig, yn gwbl ryfeddol wrth eu gwaith. Maen nhw’n cyd-dynnu mor dda gyda'r preswylwyr," ychwanegodd Matt.
"Rwyf wedi siarad â'r preswylwyr yn aml dros yr wythnosau diwethaf ac wedi dod i'w hadnabod yn eithaf da. Nid oes ganddynt ddim ond pethau da i'w dweud am staff y cartref gofal a'r gofal a gânt. Mae'n hynod foddhaus.
"Roeddwn i'n pryderu llawer am fynd i mewn i'r amgylchedd hwnnw, heb wybod beth oeddwn i'n ei wneud a bod dan draed pawb. Doeddwn i ddim eisiau i'r staff fy ngweld fel rhywbeth arall yr oedd yn rhaid iddyn nhw ddelio ag ef ar adeg anodd.
"Ond mae pawb yn y cartrefi yn mynd drwy newid enfawr ar hyn o bryd, maen nhw'n dod i arfer â'r amgylchedd newydd hwn ac yn rhoi’r gofal mewn gwahanol amgylchiadau. Mae hynny'n golygu y gallwn ni i gyd helpu ein gilydd."