Staffnet+ >
£500 bonus for Social Care Workers announced by Welsh Government
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bonws o £500 i Weithwyr Gofal Cymdeithasol
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ar 1 Mai y bydd pob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn derbyn bonws ariannol o £500 yr un.
Bydd staff mewn gofal preswyl a gofal cartref yn gymwys i gael y bonws.
Yn ystod cynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog:
“Dwi am i’n gweithlu mewn gofal cymdeithasol wybod bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi a’i gydnabod.
“Nod y taliad hwn yw cydnabod ymhellach y gwerth yr ydym yn ei roi ar bopeth y maent yn ei wneud - mae’n cydnabod mai’r grŵp yma o bobl sy’n cynnal sgaffaldau anweledig ein gwasanaethau, gan gefnogi ein GIG a’n cymdeithas ehangach.”
Mae Llywodraeth Cymru a’r undebau wrthi’n gweithio ar y manylion, ac ar pryd y bydd y taliad yn cael ei wneud.
Darllenwch y datganiad yn llawn gan Lywodraeth Cymru.