Pwy ‘chi’n mynd i alw?
Mewn ymgais i ddod o hyd i fwy o #ArwyrEnfys sy'n haeddu cydnabyddiaeth, cwrddon ni â Liz Cremer yr wythnos hon, sy’n Rheolwr y Ganolfan Gyswllt yn Cyswllt Un Fro (C1V), i ddysgu mwy am sut mae'r tîm wedi addasu i'w ffordd newydd o weithio.
Dydd Iau 11 Mehefin, 2020
Sut mae C1V wedi addasu i'r sefyllfa?
"Yn yr un modd â chydweithwyr ar draws y Cyngor, mae’r digwyddiadau’n ddiweddar wedi achosi newid mawr i sut mae C1V yn gweithio – mae trinwyr galwadau wedi'u rhannu bellach ar draws gwahanol safleoedd yn y Swyddfeydd Dinesig, er mwyn hwyluso ymbellhau cymdeithasol, ac mae gennym nifer sylweddol o staff yn gweithio gartref hefyd.
"Yn y gorffennol mae C1V, fel llawer o ganolfannau cyswllt, wedi bod yn amgylchedd sy'n seiliedig ar dîm, gyda chydweithwyr yn helpu ac yn cefnogi ei gilydd, felly mae'r ffordd bresennol o weithio yn newid enfawr!
"Fodd bynnag, mae'r Cynrychiolwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid (CGC) wedi addasu i hyn yn dda, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r holl newidiadau diweddaraf i bob gwasanaeth ar draws yr awdurdod a pharhau i gynnig cyngor ac arweiniad priodol i breswylwyr pan fo timau’n darparu eu gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae Cynrychiolwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid sy'n gweithio o gartref yn defnyddio technoleg ffôn meddal sy'n eu galluogi i ymdrin â galwadau o'u gliniaduron. Gan fod yr ystod o ymholiadau sy'n dod i law yn y ganolfan mor amrywiol, mae cymorth yn cael ei ddarparu o bell gan reolwyr sydd hefyd mewn lleoliadau amrywiol!"
Sut mae eich gwaith wedi newid?
"Mae sawl aelod o staff wedi cael eu hyfforddi i ymdrin â galwadau ar y 'llinell argyfwng Covid', gan roi cyngor a chymorth i alwyr. Mae hwn wedi bod yn sgìl newydd a buddiol i aelodau'r tîm, sydd wedi ymdrin â mwy nag 800 o alwadau a dderbyniwyd ers 1 Ebrill yn unig. Mae staff C1V hefyd wedi helpu i reoli galwadau allan i breswylwyr ar y rhestr warchod – gwnaed y rhain gan wirfoddolwyr o dimau eraill a ymunodd â ni i helpu gyda'r gwaith hanfodol hwn.
"Mae'r berthynas ragorol rhwng C1V a chydweithwyr mewn adrannau eraill wedi bod yn allweddol wrth ddarparu gwasanaethau ar hyn o bryd.”
A oes unrhyw un wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ohono/ohoni?
"Mae'r tîm yn C1V wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau y gall ein cwsmeriaid gael gafael ar wasanaethau o hyd. Er bod aelodau’r tîm yn gweithio mewn llawer o wahanol leoedd, mae safon uchel y gwasanaeth y mae C1V yn ei ddarparu wedi parhau'n gyson ac mae'r tîm wedi addasu'n dda i'r ffordd newydd o wneud pethau. Da iawn bawb!”
Mae C1V wedi ymdrin â 24,000 o alwadau sydd wedi’u derbyn ers 1 Ebrill – gan gynnwys dros 800 ar y Llinell Argyfwng, yn ogystal â delio â channoedd o negeseuon e-bost bob wythnos.
Rhaid i'n swyddogion lles sicrhau bod y rhan fwyaf o'r galwadau a gymerir yn cael eu trin gan y cyswllt cyntaf, yn hytrach na chael eu trosglwyddo a fyddai’n arwain at angen neilltuo gweithiwr cymdeithasol i’r achos. Diben hyn fyddai rhoi mwy o amser i weithwyr cymdeithasol ei dreulio ar achosion mwy cymhleth. Mae hyn yn amlygu ymroddiad y swyddogion lles i archwilio pob ateb posibl i'r cwsmer er mwyn sicrhau y bodlonir eu hanghenion wrth gynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed hefyd.
Yn ogystal, yn ystod mis Mai, ymdriniodd y gweithredwyr Teleofal â mwy na 9,000 o alwadau. Mae gweithredwyr Teleofal wedi parhau i fynd y filltir ychwanegol gan dawelu meddyliau cwsmeriaid sy'n ei chael yn anodd gydag unigedd ac maen nhw wedi bod yn amyneddgar ac yn ystyriol iawn gyda galwyr mynych sy'n cael trafferth â demensia – mae gan y cwsmeriaid hyn ofal cyfyngedig ar hyn o bryd.

Roedd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, am roi diolch arbennig i'r tîm C1V, gan ddweud,
"Mae staff C1V yn enghraifft ardderchog o'n gwasanaethau’n addasu i'r amgylchiadau unigryw yn sgîl COVID-19. Er gwaethaf newidiadau enfawr i'r ffordd y maent yn gweithio, mae staff wedi ymdopi â'r argyfwng yn ddidrafferth, gan roi anghenion eraill o flaen rhai eu hunain a sicrhau bod preswylwyr yn ddiogel.
"Yn ogystal â chefnogi'r Tîm Cymorth Argyfwng newydd ei sefydlu, mae Lynne Clarke wedi neilltuo peth amser i wella'r Cwrt yn y Swyddfeydd Dinesig fel y gall staff sy'n gweithio yno gymryd seibiant mawr ei angen a mwynhau eu hamgylchoedd. Da iawn Lynne, rydych chi wedi gwneud gwaith gwych."