Dyma ein Tîm Gwasanaethau Dydd Anabledd Dysgu

Cafodd y ddwy ganolfan ddydd yn y Barri, y mae'r Timau Gwasanaethau Dydd yn gweithredu ohonynt fel arfer, eu cau dros dro yng nghanol mis Mawrth. Fodd bynnag, mae'r staff wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i roi cymorth hanfodol i rai o ddinasyddion y Fro sydd fwyaf agored i niwed ac sydd ag anghenion iechyd a chymorth cymhleth.

Dydd Mercher, 3 Mehefin 2020

Day Services at home support RHMae Wendy Atkinson (yn y llun) yn un o'n #ArwyrEnfys diweddaraf, a ddechreuodd weithio yn ein Tîm Gwasanaethau Dydd Anabledd Dysgu ar 1 Mai, yng nghanol pandemig COVID-19.  

Mae Gweithwyr Cymorth Gwasanaeth Dydd yn ymweld ag unigolion yn eu cartrefi eu hunain, gan eu cefnogi mewn amrywiaeth o dasgau, megis gofal personol a chymorth amser bwyd. Mae'r cymorth hwn yn y cartref yn galluogi aelodau'r teulu i gael rhywfaint o seibiant o'u rôl fel gofalwyr llawn amser.

Maent hefyd yn anfon gweithgareddau ac adnoddau at unigolion i'w cadw'n brysur yn ystod eu hamser i ffwrdd o'r ganolfan ddydd.

Mae rhai staff yn brysur yn paratoi pecynnau Cyfarpar Diogelu Personol i'w defnyddio yn y gymuned ac yn dal i ofalu am y rhandir ar y safle fel y bydd yn barod ar gyfer eu dychweliad.

Rhaid i ni hefyd gydnabod gwaith pwysig y Swyddogion Gwasanaeth Dydd, sy'n gweithio gartref 'y tu ôl i'r llenni', gan gysylltu â phob teulu neu ofalwr i gynnal gwiriadau lles a chynnig cymorth, yn ogystal â threfnu gweithrediad y gwasanaeth o ddydd i ddydd.

Mae sawl aelod o'r tîm wedi cael ei symud i Wasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro, lle mae’n gweithio fel gweithiwr cefnogi ailalluogi, gan gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain gyda thasgau bywyd pob dydd.

Dywedodd Suzanne Clifton, Pennaeth Gwasanaeth y tîm,

"Rwy'n falch iawn o'r ffordd mae staff y gwasanaethau dydd i gyd wedi ymateb ac addasu i'r sefyllfa bresennol, gan roi anghenion y defnyddwyr gwasanaeth yn gyntaf. Maent bob amser yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ganddynt er mwyn sicrhau bod anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu diwallu, ac nid yw'r enghreifftiau hyn yn wahanol. Da iawn i bob un ohonoch a diolch am eich gwaith caled parhaus a'ch ymrwymiad i'r gwasanaeth."

Rydyn ni'n credu bod holl aelodau'r tîm gwerthfawr hwn yn #ArwyrEnfys sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ganddynt i gyflawni rolau hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.