Arwyr mewn Argyfwng

Ar gyfer ein darn #ArwyryrEnfys mewnol olaf, roeddem o'r farn y byddai'n briodol talu teyrnged i'r tîm sydd wedi llywio'r Cyngor drwy'r ymateb i'r pandemig Covid-19

Dydd Mawrth 23 Mehefin 2020

I'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r Uned Amddiffyn Sifil, hwn yw’r tîm sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Cyngor yn barod ar gyfer digwyddiadau ac argyfyngau. Fel arfer, mae hyn yn ymwneud â llifogydd, tân neu eira fel y digwyddodd ym mis Mawrth 2018 gyda'r 'Bwystfil o'r Dwyrain’. 

Fel Ymatebwr Categori 1, dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu pan fo argyfwng. 

Yn ystod y cyfnod cloi, mae cynllunio at argyfwng wedi bod yn hollbwysig o ran cydlynu'r ymateb i'r argyfwng presennol, Covid-19, sef argyfwng nas gwelwyd ei debyg o’r blaen ac un sydd wedi para sawl mis.

Mae hyn yn cynnwys cydlynu ein Cyfarfodydd UDRh Aur mewnol, a gynhaliwyd bob dydd am 9am ar y dechrau, cyfarfodydd y Grŵp Cydgysylltu Strategol allanol a chyfarfodydd y Grŵp Cydlynu Tactegol drwy Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De. 

Fel awdurdod Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De, mae gennym gysylltiadau sefydledig ar waith gyda'n hasiantaethau partner. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol eraill, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i enwi ond ychydig. Mae'r fforwm hwn yn galluogi sefydliadau Categori 1 ddod at ei gilydd, sy'n helpu o ran cydlynu a chydweithio rhwng ymatebwyr i ddigwyddiad mawr. 

Mae Melanie, sy'n gweithio yn yr Uned Amddiffyn Sifil, wedi bod yn gyfrifol am gydlynu cyfarfodydd y grŵp Cydlynu Strategol Allanol a'r Grŵp Cydlynu Tactegol ddwywaith yr wythnos yn ogystal â chyflwyno adroddiad yn ddyddiol ar y sefyllfa i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymateb cydlynedig ar waith yn Ne Cymru i'r digwyddiad hwn sy’n mynd rhagddo. Wrth i'r cyfnod cloi presennol gael ei lacio’n araf, mae gwaith y Cyngor a Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn canolbwyntio ar adferiad a’r gwaith o sefydlu Grŵp Cydlynu Adferiad, eto gan Melanie.  

Yn ogystal â'r uchod mae'r tîm wedi bod yn allweddol yn y gwaith o sefydlu storfa Cyfarpar Diogelu Personol y Cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig er mwyn sicrhau bod gan bob gweithiwr rheng flaen allweddol fynediad i'r offer cywir bob amser.

CPU RHBydd y tîm yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith adfer y Cyngor, gan roi cymorth ac arweiniad i gyfarwyddwyr.

Mae Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, wedi gweithio'n agos gyda'r tîm drwy gydol yr ymateb i'r pandemig, ac roedd am ddweud diolch arbennig: 

"Mae Debbie, Carl a Melanie wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi'r Cyngor yn ei ymateb i Covid-19.  Mae Debbie wedi bod yn bresennol ym mhob un o Gyfarfodydd Aur yr UDRh ers dechrau’r cyfnod cloi.  Mae ei phrofiad a'i harbenigedd wedi disgleirio yn ystod yr argyfwng – mae hi wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi profi ei bod yn ddibynadwy ac yn ddigyffro o dan bwysau. Rwy'n ddiolchgar iawn iddi hi a'i thîm gwych am eu gwaith. Diolch yn fawr."