Staffnet+ >
COVID-19 Risk Assessment Tool for Staff
Offeryn i Asesu’r Risg o Covid-19 i Staff
Cafodd asesiad risg ei lunio i gefnogi Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i ddeall eu risg posibl gan Covid-19.
Dydd Mercher 24 Mehefin 2020
Mae’r offeryn ar gael i bob aelod o staff ei ddefnyddio’n wirfoddol pe bai’n teimlo ei fod mewn grŵp sy’n agored i niwed.
Mae’r offeryn yn gwella’r broses hunanasesu a oedd eisoes ar waith ar gyfer staff y Cyngor a bydd yn helpu lleihau risg pobl o ddal y coronafeirws yn y gweithle.
Er nad yw’n orfodol, rydym yn cynghori’r holl staff i gymryd yr amser i ymgymryd â’r hunanasesiad.
Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu
Os ar ôl ymgymryd â’r hunanasesiad rydych yn teimlo eich bod mewn risg uwch dylech chi siarad a’ch rheolwr llinell.
Mae angen cwblhau’r asesiad cyn siarad â’ch rheolwr llinell. Yna bydd eich rheolwyr yn gweithio gyda Phartneriaid Busnes AD i nodi unrhyw addasiadau y gellir eu gwneud i liniaru unrhyw risg yn y gweithle.
Nid yw’r offeryn hwn yn berthnasol i unrhyw aelodau o staff sydd mewn grŵp sy’n agored i niwed yn glinigol, a ddylai fod yn ymbellhau’n gymdeithasol eisoes yn dilyn asesiad gyda’u rheolwr llinell.