Staffnet+ >
Mae'r tîm Gwasanaethau Adeiladau yn disgleirio!
Mae’r tîm Gwasanaethau Adeiladau yn disgleirio!
Tra bod llawer o’n gwasanaethau rheng flaen wedi cael eu cydnabod yn yr wythnosau diwethaf, hoffwn daflu goleuni ar arwyr ‘anweledig’ gweithlu’r Cyngor - y Tîm Gwasanaethau Adeiladau.

Eisoes yn wasanaeth brys 24/7 cyn yr argyfwng, mae’r tîm wedi arfer â darparu gwasanaethau hanfodol dan amgylchiadau heriol.
Fodd bynnag, ers dechrau Covid-19, maent wedi dangos hyblygrwydd a phenderfyniad eithriadol i barhau i gyflawni eu dyletswyddau. Mae llawer wedi’u hailddyrannu ac maent wedi neilltuo oriau ychwanegol, penwythnosau a gwyliau banc er mwyn darparu gwasanaeth treigl.
I helpu i leihau lledaenu’r feirws o bosibl mewn adeiladau’r Cyngor a’r ysgolion ardal, mae rheolwyr Glanhau Adeiladau wedi gweithio ar y cyd gyda chydweithwyr i fodloni gofynion glanhau unigol pob safle. Maent wedi llwyddo i recriwtio nifer o staff a gafodd eu hadleoli, a lle bo hynny’n bosibl, maent wedi defnyddio eu hadnoddau eu hunain er mwyn darparu seibiant i lanhawyr ysgolion allanol.
Mae adeiladau’r Cyngor a rhai cyhoeddus hefyd wedi elwa ar wasanaeth ‘glanhau dwys’, yn ogystal â rhoi hylifau glanhau firwsleiddiol ar bob arwyneb caledYn ogystal â chadw adeiladau’n lân, mae’r tîm yn gweithio dydd a nos i’w cadw’n ddiogel. Diolch i’r timau Gwasanaethau Diogelwch a Chymorth Cyfleusterau, mae staff yn cael mynediad diogel parhaus i adeiladu a chynhaliwyd rhywfaint o barhad busnes.
Ochr yn ochr â’u dyletswyddau eraill, mae staff rheoli gwasanaethau a gweithwyr cludo mewnol wedi bod wrth law i helpu gyda’r rhaglen dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol, yn dosbarthu eitemau diogelu hanfodol i weithwyr eraill ar y rheng flaen.
Mae atgyweiriadau hanfodol yn cael eu gwneud mewn adeiladau corfforaethol a chyhoeddus, ac mae’r gwasanaethau hefyd yn ymateb i rywfaint o waith gwella. O ganlyniad, cafodd llawer o brojectau eu symud ymlaen tra bod yr adeiladau yn parhau i fod ar gau neu’n wag.
Hefyd gwnaed atgyweiriadau i dai’r Cyngor. Gan barhau i baratoi tai o ansawdd uchel i’r rhai sydd ei angen, mae’r tîm yn paratoi cartrefi yn barod i’r tenantiaid nesaf. Adroddwyd hefyd y bu cynnydd mewn trais domestig yn ystod yr argyfwng sydd wedi arwain at staff cynnal a chadw yn gweithio’n rheolaidd mewn cartrefi i wella diogelwch i’r dioddefwyr.
Er gwaethaf y peryglon newydd a achosir gan y feirws, mae’r risg o eiddo a gynhelir yn wael yn real iawn o hyd. Mae’r timau Tai a Chydymffurfiaeth Gorfforaethol yn parhau i wasanaethu offer nwy a chylchredau trydan ac ymchwilio i legionella a pheryglon tân. Er nad yw gwirio adeiladau gwag o bosibl yn ymddangos fel prif flaenoriaeth, bydd yn sicrhau y gall adeiladau ailagor yn ddiffwdan ac yn ddiogel yn y dyfodol.
Mae Simon Bowden, y Rheolwr Glanhau a Diogelwch, wedi canmol ymdrechion yr adran:
“Rwyf mor falch o holl aelodau fy nhîm a neidiodd i’r adwy pan gododd Covid-19 ei ben am y tro cyntaf. Ar unwaith, dechreuon nhw ddosbarthu Hylifau Glanhau Firwsleiddiol i bob safle a chyfarwyddo staff ble i ffocysu eu hegni er mwyn lleihau’r posibilrwydd o drosglwyddo’r feirws.
“Mae agwedd y staff rheng flaen wedi bod yn berffaith, ac maent wedi deall yn llwyr yr angen i addasu a newid y ffordd rydym yn gweithredu, wrth i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i ddod trwy’r cyfnod ansicr hwn."
Heb os, mae’r tîm Gwasanaethau Adeiladau yn chwarae rôl allweddol wrth roi’r ‘arferol newydd’ ar waith. Mae eu gwaith sydd yn aml heb ei weld, yn helpu i ddiogelu bywydau trigolion a chydweithwyr gan roi ymdeimlad o fod yn saff ac yn ddiogel i ni i gyd yn ystod y cyfnod heriol hwn.