Dechrau mewn rôl newydd i achub bywydau

Ers Awst 2019, mae Kirsty Lane wedi gweithio i Adran y Dreth Gyngor a Budd-daliadau yng Nghyngor Caerdydd. Er bod yr adran wedi parhau i fod yn brysur ers dechrau argyfwng COVID-19, cysylltodd rheolwr Kirsty â hi ar ôl cael ei dewis i ymuno â thîm olrhain cysylltiadau sy’n tyfu Caerdydd a’r Fro ar ddechrau mis Mai.

"Cyn gynted ag y gofynnodd fy rheolwr i mi gymryd rhan, fe wnes i achub ar y cyfle. Braint o’r mwyaf oedd i mi allu helpu pobl i gadw'n ddiogel a thawelu eu meddyliau yn y cyfnod anodd hwn."

Cyn pen wythnos ar ôl mynegi ei diddordeb, roedd Kirsty yn gweithio fel rhan o dîm olrhain cysylltiadau Caerdydd a'r Fro. Yn gyntaf, cafodd y tîm hyfforddiant gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am amrywiaeth o fodiwlau gwahanol ynghylch y feirws COVID-19 ei hun, yr hyn sydd ynghlwm wrth olrhain cysylltiadau a'r cyngor gorau i'w roi i bobl dros y ffôn.

"Roeddwn i'n meddwl bod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn ac fe roddodd lawer o hyder i mi gychwyn arni. Ar ôl ei gwblhau, roeddwn i'n teimlo'n falch am fy rôl newydd ac yn barod am lawer o wahanol sefyllfaoedd a allai godi."

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gweithio i gyflwyno gwasanaeth profi, olrhain a diogelu GIG Cymru. Gan weithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Cyngor Caerdydd wedi adleoli nifer o'i staff i weithio fel swyddogion olrhain cysylltiadau, gan gysylltu â'r rhai yn y gymuned sydd wedi cael prawf cadarnhaol ar gyfer COVID-19 yn ogystal â'r rhai sydd wedi dod i gysylltiad agos â nhw.

Kirsty Lane"Fel swyddog olrhain cysylltiadau, rwy'n gweithio 37 awr yr wythnos, sy'n cynnwys pum diwrnod o shifftiau wyth awr. Rydym yn gwneud naill ai 8am-4pm neu 12pm-8pm ac mae hyn yn tueddu i newid am yn ail bob wythnos. Rwyf wedi cael boddhad mawr o wneud hyn hyd yma oherwydd bod y gwaith mor hanfodol yn ein brwydr yn erbyn y feirws. Byddwch yn meithrin perthnasoedd braf â phobl yr ydych yn eu ffonio i weld sut maen nhw bob dydd wrth i chi eu tywys trwy'r broses o hunanynysu. I rai pobl, sy'n teimlo'n unig, mae wedi bod yn wych cynnig cyfle pwysig iddynt ryngweithio â pherson arall yn ogystal â rhoi digon o gymorth ymarferol a moesol iddynt."

"Fel y gallwch ddychmygu, weithiau mae’n gallu bod yn anodd ffonio pobl a gofyn iddyn nhw hunanynysu am hyd at bedwar diwrnod ar ddeg. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl rwyf wedi siarad â nhw wedi bod yn disgwyl yr alwad mewn gwirionedd, gyda llawer o ffrindiau ac aelodau teulu gofalwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol wedi cael galwad hyd yma. Ond nid yw popeth yn rhedeg yn esmwyth. Mae rhai pobl yn teimlo'n rhwystredig am beidio â gallu gwybod pwy yw'r person y maent wedi dod i gysylltiad ag ef, ac mae eraill yn cymryd amser i ddod dros y sioc gychwynnol sy'n dod wrth glywed y newyddion bod angen iddynt hunanynysu. Wedi'r cyfan, mae'n effeithio'n galetach ar rai pobl nag eraill. Fel y rhai a allai fod yn byw mewn preswylfeydd cymunedol gyda mannau awyr agored a rennir, na allant fynd allan mwyach."

"Ond ar y cyfan, mae mwyafrif llethol y cyhoedd wedi ymateb yn ddeallgar ac mae pobl yn hapus i wneud eu rhan. Rydym yn deall y gall hunanynysu fod yn heriol iawn, ond os nad ydym yn cydymffurfio â'r broses yn awr, byddwn ni’n gweld mwy o farwolaethau a mwy o ddioddefaint yn y dyfodol. Rydym yn gwybod nad yw'n ddelfrydol, ond gall pythefnos yn unig o hunanynysu wneud gwahaniaeth mawr i ddiogelu pobl ac achub bywydau."