Arolwg lles staff ysgolion
Bydd yr arolwg lles ar gyfer ysgolion yn rhedeg o'r 13eg Gorffennaf-31ain Gorffennaf 2020 ac anogir pob aelod o staff yr ysgol i ymateb. Mae'r arolwg hwn ar gyfer staff ysgolion a gyflogir yn uniongyrchol yn unig-Cynhaliwyd arolwg ar wahân ar gyfer staff a gyflogir yn gorfforaethol ym mis Mehefin.
Dydd Llun 13 Gorffennaf, 2020
Nod arolwg lles staff ysgolion COVID-19 yw rhoi'r cyfle i chi roi adborth ynghylch pa mor dda yr ydym ni, fel cyflogwr, yn eich cefnogi chi a'ch lles.
Y gobaith yw y bydd yr adborth hefyd yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu i lywio ein gweithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu yn y dyfodol.
Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau ar:
-
iechyd a lles;
-
uwch arweinyddiaeth;
-
cyfathrebu; ac
-
amodau gwaith.
Er bod yr arolwg yn gofyn am eich adran, mae eich ymateb yn hollol ddienw.
Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i gynllunio'r camau y mae'n rhaid i ni cymryd i cefnogi chi ar yr adeg heriol hon.
Ymatebwch trwy glicio ar y ddolen isod.
Arolwg Staff Covid-19
Bydd dolen hefyd yn cael ei e-bostio at bob aelod o staff. I'r rhai nad oes ganddynt gyfeiriad e-bost gwaith ac nad ydynt wedi darparu cyfeiriad e-bost personol, anfonir llythyr gyda dolen i'r arolwg, y gellir ei gyrchu trwy god QR. Gellir agor y ddolen ar unrhyw ddyfais, ond dim ond y rhai sydd â dolen yr arolwg all ymateb.
Rydym yn deall mae’n amser heriol i bob un ohonom. Os ydych yn teimlo eich bod angen rhywfaint o gymorth, gweler ein tudalen Lles. Os oes angen siarad â rhywun, gallwch chi defnyddio ein gwasanaeth CareFirst drwy galw 0800 174 319, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Os oes gennych chi cwestiynnau ynglun a’r arolwg, siaradwch gyda’ch reholwr llinell yn gyntaf, neu hanfonwch e-bost i engage@valeofglamorgan.gov.uk.