Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd ym Mro Morgannwg
Ym mis Gorffennaf 2019, ymunom â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol ledled y Deyrnas Unedig i ddatgan Argyfwng Hinsawdd byd-eang.
Bu'r ddatgan mewn ymateb i adroddiad Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd ar effaith cynhesu byd-eang.
Amcangyfrifir, os bydd tymheredd y blaned yn codi dim ond 2 radd celsius, y bydd mwy o ddigwyddiadau tywydd byd-eang fel tywydd poeth, sychder, llifogydd, stormydd gaeaf, corwyntoedd a thanau gwyllt, ac y byddan nhw’n fwy eithafol.
Ym Mro Morgannwg gallai hyn olygu risgiau cynyddol o lifogydd yn sgil stormydd a chynnydd yn lefel y môr, colli rhywogaethau unigryw, sychdwr, a phrinder dŵr.
Ymateb i'r Argyfwng
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio i fynd i'r afael â’r Newid yn yr Hinsawdd dros nifer o flynyddoedd, o osod paneli solar ar adeiladau'r Cyngor i osod bylbiau LED mewn goleuadau stryd. Mae lleihau ôl troed carbon y sefydliad wedi bod yn flaenoriaeth allweddol.
Cydnabyddir, fodd bynnag, nad yw'r pethau hyn ar eu pen eu hunain yn ddigon i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd. Caiff yr Argyfwng Hinsawdd effaith ar bawb ledled Bro Morgannwg. Bydd mynd i'r afael â'r argyfwng yn galw ar phob rhan o gymdeithas - y sector cyhoeddus, busnesau a dinasyddion - i gydweithio i fynd i'r afael â sut rydym yn defnyddio ynni, teithio, ailgylchu, siopa a byw.
Llythyr gan Arweinydd y Cyngor ar ein hymateb