
04 Rhagfyr 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Ysgrifennaf atoch unwaith eto ar ddiwedd wythnos hynod o brysur sydd wedi gweld newyddion da gan gynnwys datblygiadau pellach ar frechlynnau ar gyfer COVID-19, ond gyda rhai geiriau o rybudd hefyd.
Mae cymeradwyo'r brechlyn cyntaf wrth gwrs yn ddatblygiad cyffrous yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 ac mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi’r Bwrdd Iechyd Prifysgol i sicrhau y gallant ddarparu'r brechlyn i'n cymunedau cyn gynted ag y bydd yn barod. Fel y deallwch, rwy’n siŵr, disgwylir i'r broses o ddarparu brechlynnau yn ystod yr wythnosau cyntaf fod wedi ei dargedu, felly mae'n ddealladwy y rhoddir blaenoriaeth i staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd â rolau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chleifion mewn meysydd gwaith risg uchel. Gwn y bydd gan lawer o staff gwestiynau am gymhwysedd a'r amserlen ar gyfer cyflwyno hyn. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi i gyd wrth i fwy o fanylion gael eu cadarnhau maes o law.
Er bod y newyddion am gynnydd gyda brechlynnau i'w groesawu, fel y soniais yr wythnos diwethaf, rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus o fygythiad parhaus COVID-19. Mae angen i bob un ohonom fod yn hynod ofalus gan fod yr achosion wedi parhau i gynyddu dros yr wythnos ddiwethaf. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y clystyrau o achosion cadarnhaol sy'n gysylltiedig â throsglwyddo o fewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys gweithleoedd. Mae COVID-19 yn feirws sy'n gallu achosi i bobl fynd yn ddifrifol wael. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch fod y sefyllfa yng Nghymru yn parhau i ofyn am i’r holl staff weithio gartref lle bynnag y bo modd a phan fo’u rolau penodol yn caniatáu hynny. Rwyf, fel bob amser yn ymwybodol ein bod yn sefydliad amrywiol iawn sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ac nad yw gweithio o bell yn bosibl i lawer o gydweithwyr. Fodd bynnag, pan fo hynny'n bosibl, y sefyllfa ddiofyn yw bod cydweithwyr yn gweithio gartref.
Mae'n amlwg o'r data a ddadansoddir bob dydd, mai ein hymddygiad ni sy'n lledaenu'r feirws a dylem i gyd gofio hynny wrth i ni barhau gyda’n bywydau bob dydd, boed hynny mewn gwaith neu y tu allan i'r gwaith. Mae angen i bob un ohonom gadw pellter cymdeithasol diogel o 2m o leiaf, golchi ein dwylo'n rheolaidd neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo, a gwisgo masgiau pan fo angen.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae'n bosibl bod staff wedi sylwi fod ein Calendr Adfent wedi'i gyhoeddi ar Staffnet+ yr wythnos hon ac mae'n cael ei hyrwyddo drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd. Nod y calendr adfent yw tynnu sylw at rai o'n prif gyflawniadau yn 2020, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol yr ydym yn eu hwynebu. Byddwn yn eich annog i gadw llygad arno drwy gydol mis Rhagfyr wrth i ni geisio cydnabod a dathlu ein cydweithwyr. Bydd cydweithwyr hefyd wedi gweld y cyfleuster 'Llaw fawr' ar Staffnet+. Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae rhain yn agosáu at 50 ‘llaw fawr' gwahanol, ac mae pob un ohonynt yn bleser llwyr i'w darllen.
Ar thema rhoi cymeradwyaeth, cefais y pleser o gael fy nghopïo mewn e-bost, yn gynharach yr wythnos hon gan un o'n partneriaid yn gweithio ar y Cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Ysgol Uwchradd Whitmore. Mae'r Cyngor wedi bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr y gallwn gynnig cyfleoedd sylweddol i gymunedau yn y Barri a'r Fro wrth gyflawni'r rhaglen adeiladu hon gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd gan Beiriannydd Graddedig sydd wedi gweithio gyda Morgan Sindall hyn i'w ddweud am gydweithiwr, Angelina Patrick, sy'n Swyddog Cyflogaeth sy'n gweithio o fewn tîm Cymunedau dros Waith y Fro.
'Roeddwn i eisiau dweud mai pleser llwyr oedd cael gweithio gyda chi dros y misoedd diwethaf, rydych chi'n fenyw wych sy'n rhoi llawer o ymdrech ac amser i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac mae hynny'n rhywbeth i'w edmygu.
'Rydym yn nesáu at y flwyddyn newydd ac edrychaf ymlaen at weld popeth yr ydym wedi'i gynllunio ar gyfer gwaith cydweithredol Morgan Sindall a Bro Morgannwg. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod yn gwybod pa mor werthfawr ydych chi wedi bod i Brosiect Ysgol Uwchradd Whitmore ac rwy'n gwerthfawrogi popeth rydych chi wedi'i wneud i mi.'
Da iawn Angelina – am ganmoliaeth yn wir. Diolch am bopeth rydych chi wedi bod yn ei wneud ochr yn ochr â chydweithwyr i wneud ein cyfranogiad mor llwyddiannus – Daliwch ati i wneud y gwaith da.
Wrth i'r flwyddyn ddirwyn i ben, hoffwn hefyd rannu rhywfaint o newyddion yn ymwneud â threfniadau gweithio dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd prif adeiladau swyddfa'r Cyngor (Swyddfeydd Dinesig, Swyddfa'r Dociau a swyddfeydd Depo’r Alpau) ar agor tan 5:00pm ddydd Iau 24ain mis Rhagfyr 2020. Bydd yr adeiladau hyn wedyn ar gau i'r holl staff a chwsmeriaid o 5:00pm ar y 24ain o Ragfyr tan 08:00am ddydd Llun 4ydd o Ionawr 2021.
Y canlynol yw'r diwrnodau gŵyl banc statudol dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd:
- Dydd Gwener 25 Rhagfyr
- Dydd Llun 28 Rhagfyr
- Dydd Gwener 1 Ionawr
Bydd llawer o'n gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu yn ystod y cyfnod hwn ac rwy'n ddiolchgar fel bob amser am ymroddiad ein staff sy'n gweithio mewn rolau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol bob dydd o'r flwyddyn, ac yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.
Ar gyfer rhai gwasanaethau, bydd modd lleihau faint o staffio sydd ei angen dros y cyfnod hwn. Bydd Rheolwyr Gweithredol yn gyfrifol am sicrhau lefelau priodol o gyflenwi drwy gydol y cyfnod ar draws pob maes gwasanaeth.
Os ydych wedi bod yn gweithio yn un o'r swyddfeydd a fydd ar gau dros y cyfnod ac nad ydych am gymryd y tri diwrnod gwaith pan fydd swyddfeydd ar gau fel gwyliau blynyddol, trafodwch hyn gyda'ch rheolwr. Bydd eich rheolwr yn trafod eich opsiynau gyda chi, gan gynnwys gweithio o leoliad arall o bosib neu eich galluogi dros dro i weithio gartref drwy gydol y cyfnod.
Byddwn yn annog pob cydweithiwr i gymryd amser rheolaidd i ffwrdd o'r gwaith gan fod eich hawl i wyliau a gofynion ein gwasanaethau yn ei ganiatáu. Mae eleni wedi bod yn heriol. Rwyf wir yn werthfawrogol o ymdrechion pawb ac mae'n bwysig cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i orffwys pan fo'n bosibl.
Yn olaf, hoffwn longyfarch Lorna Cross a Mark White, a'u timau, a chwaraeodd ran bwysig yn y bartneriaeth a gyflwynodd Ddatblygiad Goodsheds yn y Barri, a enillodd Wobr Ystadau Cymru ddoe. Mae Ystadau Cymru yn annog rhagoriaeth o ran rheoli ystad sector cyhoeddus Cymru yn weithredol drwy gydweithredu strategol a chanllawiau arfer da ac mae'n rhwydwaith sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru a holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Cynhaliwyd y gynhadledd am yr ail flwyddyn yn olynol gan ein cydweithiwr ni, Tom Bowring – da iawn Tom, rwy'n clywed eich bod wedi gwneud gwaith gwych eto eleni!
Mae'r Wobr Dangos Twf Economaidd yn gofyn i sefydliadau'r sector cyhoeddus ddangos sut y maent wedi defnyddio eu hystad i greu twf economaidd fel creu swyddi, cartrefi a chyfleoedd busnes. Mae datblygiad Goodsheds yn brosiect adfywio cydweithredol rhwng Cyngor Bro Morgannwg, DS Properties (Goodsheds) Limited, Cymdeithas Tai Newydd a Llywodraeth Cymru. Da iawn i bawb sy'n gysylltiedig, mae'n gaffaeliad gwych i ddatblygiad parhaus Glannau’r Barri. Dewisodd y Gweinidog dros Gyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans, hyn hefyd fel ei "enillydd o blith yr holl enillwyr" yn y gwobrau yn canmol y canlyniadau rhagorol a graddfa'r cydweithio. Nid yw prosiectau fel hyn yn dod at ei gilydd mor syml â hynny – maent yn dibynnu ar amrywiaeth o dimau eraill sy'n gweithio mewn partneriaeth boed hyn yn swyddogion cyfreithiol, yn arbenigwyr cyllid, yn swyddogion cynllunio a rheoli adeiladu a chydweithwyr priffyrdd yn ogystal â'r rhai fel Mark a Lorna. Gwaith rhagorol mewn partneriaeth a gwych gweld y Fro ar flaen y gad o ran adfywio arloesol o’r fath.
Rwy'n gobeithio y byddwch i gyd yn llwyddo i ddod o hyd i beth amser dros y penwythnos i gymryd seibiant.
Diolch i chi gyd am eich ymdrechion parhaus mewn amgylchiadau anodd.
Cadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr.
Rob