Staffnet+ >
Diweddariad pellach i'r holl staff

17 Rhafgyr 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Fel yr addawais, ysgrifennaf atoch heddiw i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyfarfod ein Tîm Arweinyddiaeth Strategol y bore hwn ynghylch y datganiad ddoe y bydd Cymru’n mynd i gyfyngiadau lefel 4 o ddydd Llun 28 Rhagfyr.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd cyfyngiadau ar waith o 28 Rhagfyr a fydd yn debyg i’r rhai a welsom yn ystod y cyfnod atal ym mis Tachwedd a’r cyfnod cloi cyntaf yn gynharach eleni. Gofynnir i bobl aros gartref cymaint â phosibl. Bydd yr holl siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn cau o 6pm Noswyl Nadolig a’r holl fusnesau lletygarwch o 6pm Dydd Nadolig.
O ran sut y byddwn ni’n gweithredu fel sefydliad, bydd gofyn i staff barhau i weithio o gartref, ble bynnag y bo’n bosibl. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol pan na fydd yn bosibl gweithio o gartref y bydd staff yn gweithio yn ein swyddfeydd. Bydd ein hadeiladau yn aros ar gau i aelodau o'r cyhoedd o 5pm ddydd Iau 24 Rhagfyr nes yr hysbysir fel arall, ac eithrio ein gwasanaeth cofrestru a fydd ar agor drwy apwyntiad yn unig.
Dim ond gweithwyr rheng flaen hanfodol fydd yn cael teithio o gartref i’w gwaith. A bydd staff ein hysgolion yn dychwelyd i'r gwaith o 4 Ionawr, er y disgwylir rhagor o fanylion yn nodi pryd y bydd pob disgybl yn dychwelyd i ysgolion ym mis Ionawr yn ddiweddarach heddiw. Rydym yn cysylltu'n uniongyrchol â Phenaethiaid ar y trefniadau hyn.
Rwyf i, fel bob amser, yn hynod ddiolchgar i'n gweithwyr rheng flaen hanfodol, gan gynnwys staff ysgolion, am eich ymrwymiad parhaus i gadw ein gwasanaethau hanfodol ar waith.
Yn wahanol i'r cyfnod atal a'r cyfyngiadau blaenorol, bydd ein Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref yn aros ar agor drwy apwyntiad yn unig. Fodd bynnag, gofynnir nawr i breswylwyr sy'n mynychu wisgo gorchuddion wyneb.
Er nad yw hunanwarchod yn cael ei ailgyflwyno o dan y mesurau hyn, bydd ein Tîm Cymorth Argyfwng wrth law unwaith eto i weithio'n agos gydag Arwyr y Fro i gefnogi preswylwyr sy'n agored i niwed os ydynt yn ei chael yn anodd cael gafael ar eitemau hanfodol, angen cymorth cyfeillio a mynediad at fathau eraill o gymorth a chyngor.
O weld y data diweddaraf ar nifer yr achosion ym Mro Morgannwg, gallaf ddweud mewn difri bod angen y mesurau hyn ar frys i atal lledaeniad y coronafeirws yn ein cymunedau.
Hoffwn ychwanegu, am yr ychydig wythnosau sydd i ddod, nes y daw’r mesurau hyn ar waith, y bydd yn allweddol i ni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn y dylem ac na ddylem ei wneud, ac nid beth rydyn ni’n cael ei wneud. Mae cymryd camau bach nawr megis aros gartref gymaint â phosibl, osgoi cwrdd ag eraill o'r tu allan i'ch cartref a golchi ein dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter o 2 fetr i gyd yn eithriadol o bwysig.
Ysgrifennaf atoch unwaith eto yfory yn fy neges diwedd wythnos olaf at yr holl staff cyn y Nadolig.
Diolch yn fawr.Cadwch yn ddiogel.
Rob