Staffnet+ >
End of week message from the Managing Director

11 Rhagfyr 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Mae hon wedi bod yn wythnos hynod o brysur sydd wedi gweld nifer o ddatblygiadau yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig ehangach yn yr ymateb parhaus i COVID-19.
Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod ymhlith y bobl gyntaf yng Nghymru i dderbyn brechlyn coronafeirws Pfizer/BioNTech yr wythnos hon. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cyflwyno'r gyfres gyntaf o frechlynnau o ganolfan frechu bwrpasol yn Sblot. Bydd gofalwyr o'n cartrefi preswyl ymhlith y rhai cyntaf i dderbyn y brechlyn yr wythnos hon a bydd hyn yn parhau dros yr wythnosau nesaf i ddiogelu ein trigolion mwyaf agored i niwed. Er bod gallu brechu nifer fach o bobl yn newyddion eithriadol o dda, mae'r brechlyn yn dal i fod beth amser i ffwrdd eto i'r rhan fwyaf o bobl.
Rwy'n treulio llawer o amser gyda chydweithwyr yn edrych ar yr hyn y mae'r data gan Iechyd y Cyhoedd, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a'r Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn ei ddweud wrthym am y pandemig i helpu i lywio'r camau a gymerwn. Rwy’n bryderus iawn o weld y cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion positif ym Mro Morgannwg dros yr wythnosau diwethaf. Yn y 30 diwrnod diwethaf, mae dros 1000 o bobl wedi cael eu heintio gan y feirws yn y Fro. Yn yr wythnos ddiwethaf yn unig, cafwyd 359 o achosion newydd ac mae bron i 3000 o bobl wedi cael eu profi. Mae hyn ar lefel bryderus o uchel ac mae'r coronafeirws wedi'i ledaenu ar draws pob rhan o'n cymunedau yn y Fro ac yn bresennol ym mhob grŵp oedran. Dylai'r gyfradd y mae'r feirws bellach yn lledaenu fod yn achos pryder sylweddol i bob un ohonom. Yn ôl trafodaethau gyda'n partneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd, maent bellach yn gweld pwysau ar ysbytai ar lefelau tebyg i'r gwanwyn. Mae effaith pobl yn cael eu heintio, neu’n dod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif, hefyd yn rhoi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol dan straen aruthrol.
Rhaid imi ofyn i gydweithwyr beidio â bod yn hunanfodlon pan ddaw'n fater o ddilyn y rheolau gwirioneddol bwysig sydd wedi'u gosod i amddiffyn ein hunain ac eraill, neu feddwl efallai na fydd coronafeirws yn effeithio arnynt. O'r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu gwyddom fod y feirws yma yn y Fro yn lledaenu pan fydd pobl yn cymysgu mewn gwahanol dai, yn rhannu ceir, ac wrth beidio â chynnal pellter cymdeithasol yn y gwaith. Cofiwch am yr aberthau rydym i gyd wedi'u gwneud eleni a diogelwch eich hunain a'ch anwyliaid. Rydym yn gweithio'n galed i ddiogelu ein cymuned ac mae angen eich help arnom i ddilyn y rheolau.
Mae'r Nadolig yn gyfnod pwysig i lawer, ond eleni bydd yn wahanol. Rwy'n gwybod yr adeg hon o'r flwyddyn y byddai staff fel arfer yn dod at ei gilydd i ddathlu'r Nadolig ond mae arnaf ofn eleni na all dathliadau cymdeithasol fynd rhagddynt fel y byddent fel arfer. Ni ddylai unrhyw dimau drefnu digwyddiadau cymdeithasol lle mae pobl yn dod at ei gilydd ac yn cymysgu. Mae ffyrdd eraill o ddathlu ac rwy'n ddiolchgar i'n hyrwyddwyr lles sydd wedi datblygu cwis ar-lein i dimau gymryd rhan ynddo, os ydynt yn chwilio am gyfle i gymdeithasu yn rhithiol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Llesiant ar Staffnet+. Mae’r BBC hefyd wedi cynhyrchu rhywfaint o wybodaeth a byddwn yn annog cydweithwyr i fwrw golwg arni wrth feddwl am eu cynlluniau Nadolig.
O ganlyniad i'r cynnydd parhaus mewn achosion coronafeirws yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi y dylai ysgolion uwchradd symud i ddysgu o bell o ddydd Llun 14 Rhagfyr. Ym Mro Morgannwg, rydym wedi penderfynu y bydd safleoedd ysgolion meithrin, cynradd ac ein hysgol arbennig yn parhau i fod ar agor hyd at a chan gynnwys ddydd Mercher 16 Rhagfyr. Yn ei datganiad pwysleisiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: 'nad gwyliau Nadolig cynnar yw hwn a dylai disgyblion wneud popeth o fewn eu gallu i leihau eu cysylltiad ag eraill'. Cynhelir diwrnodau HMS sydd eisoes wedi’u trefnu gan ysgolion unigol ar ddiwedd y tymor yn ôl y bwriad.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i'n holl staff addysg ac ysgolion am eich ymdrechion parhaus i gadw disgyblion Bro Morgannwg yn yr ysgol mewn amgylchiadau mor heriol. Gobeithio y gallwch i gyd edrych ymlaen at ychydig wythnosau o orffwys o'r wythnos nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi'r wythnos hon y bydd y cyfnod hunanynysu yng Nghymru yn gostwng o 14 diwrnod i 10. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am hyn a'r hyn y mae hunanynysu yn ei olygu ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn hunanynysu pan fydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gofyn iddynt wneud hynny, a’u bod yn cael eu cefnogi i wneud hynny. Hoffwn ddiolch unwaith eto i'n cydweithwyr yn y tîm Budd-daliadau sy'n prosesu taliadau hunanynysu i bobl yn y sefyllfa hon. Diolch am eich gwaith caled parhaus.
Yn olaf, hoffwn dynnu'ch sylw at ymgynghoriad pwysig yr ydym ni fel Cyngor wedi'i lansio yr wythnos hon. Mae’n ymwneud â’n Cynllun Cyflawni Blynyddol drafft a Chynigion y Gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn amlinellu blaenoriaethau allweddol y Cyngor yn 2021/22 a'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion lles. Yna, mae rhan gyllidebol yr ymgynghoriad yn gofyn sut y dylem geisio darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae'r flwyddyn hon wedi dod â heriau sylweddol, yn ogystal â chyfleoedd, a byddwn yn eich annog i rannu eich barn ar sut y gallwn symud hyn ymlaen i'r dyfodol er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein trigolion ac y maent yn eu gwerthfawrogi. Mae'r holl wybodaeth berthnasol i'w gweld ar ein gwefan.
Rwy'n gwybod bod eleni wedi bod yn her i bawb a hoffwn bwysleisio unwaith eto pa mor ddiolchgar ydwyf am ymdrechion pawb i gadw i fynd, cefnogi ei gilydd a'n cymunedau.
Gobeithio dros yr wythnosau nesaf y cewch gyfle i ymlacio ac y bydd llawer ohonoch yn cael rhywfaint o amser i ffwrdd o'r gwaith.
Diolch yn fawr.
Cadwch yn ddiogel.
Rob