Staffnet+ >
Mae'r gwaith o gyflwyno rhaglen Microsoft Office 365 yn ailddechrau.
Mae’r gwaith o gyflwyno rhaglen Microsoft Office 365 yn ailddechrau.
Bydd y broses o gyflwyno Microsoft Office 365 yn parhau’r mis hon ar ôl cyfnod o seibiant yn ystod y cyfnod cloi.
10 Awst 2020
Mae’r Gwasanaethau TGCh wedi wynebu her fawr dros y misoedd diwethaf, gyda newid diwylliannol sydyn o gael y rhan fwyaf o'r staff yn gweithio mewn swyddfeydd i’r rhan fwyaf yn gweithio o bell.
Cafodd hyn effaith ar gyflwyno Office 365 i wahanol dimau ac adrannau’r sefydliad.
Fodd bynnag, gyda ffocws newydd ar weithio o bell, mae'r broses bellach yn barod i ailddechrau, a hynny’n gynt na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Disgwylir i'r amserlen ar gyfer symud y timau sy'n weddill i Office 365 fod wedi'i chwblhau erbyn diwedd mis Hydref, ddau fis o flaen yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol.
Os nad ydych chi’n gweithio ar Office 365 ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n fuan i egluro’r broses.
Bydd angen rhywfaint o wybodaeth ar y Gwasanaethau TGCh cyn cynnal y gwaith uwchraddio, felly byddwch yn barod i weithredu’n gyflym pan fyddwch yn derbyn yr e-bost.
Mae rhai o fanteision Office 365 yn cynnwys:
-
Microsoft Teams - cadwch mewn cyswllt ag eraill drwy sgwrsio grŵp, cyfarfodydd ar-lein, ffonio a gwe-gynadledda.
-
Outlook - gweithiwch yn effeithiol gydag e-bost, calendr, cysylltiadau, tasgau a mwy - y cyfan mewn un man.
-
OneDrive - storiwch a chydweithiwch ar ddogfennau’n ddiogel, a mwy, gan ddefnyddio OneDrive for Busnes.
-
Word, Powerpoint, Excel - y fersiynau diweddaraf o’r rhaglenni rydych chi eisoes yn gyfarwydd â nhw; Word, Excel, PowerPoint a mwy.
Dyma rai yn unig o’r nodweddion allweddol y byddwch yn gallu eu defnyddio cyn gynted ag y bydd Microsoft 365 wedi’i gyflwyno i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud gyda Microsoft 365 a sut mae'n gweithio, gwyliwch y fideos isod.