Annwyl Gydweithwyr,
Rwy'n gobeithio eich bod i gyd wedi cael cyfle i fwynhau rhywfaint o'r tywydd braf yn ddiweddar, a rhywfaint o seibiant o'r gwres gyda'r nos. Gyda phob wythnos sy’n mynd heibio, mae'r sefydliad yn cyflawni llawer iawn ac rwy’n parhau i edmygu’n fawr a diolch yn fawr iawn i bawb sy'n parhau i weithio gyda'r fath ymroddiad.
Mae nifer o gerrig milltir penodol wedi'u pasio yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae'r cardiau rhodd prydau ysgol olaf a anfonwyd gan ein tîm Dysgu a Sgiliau, sy'n cynnwys pythefnos olaf mis Awst, bellach wedi'u dosbarthu. O fis Medi ymlaen bydd y disgyblion hynny sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn derbyn y rhain yn eu hysgol.
Roedd y project yn ymdrech wirioneddol gydweithredol gyda staff o'r adrannau Dysgu a Sgiliau a TGCh, a Big Fresh Catering i gyd yn cymryd rhan. Gyda'i gilydd mae'r tîm wedi anfon 33,706 o dalebau dros y pedwar mis diwethaf i dros 3200 o ddisgyblion. Rwyf wedi cynnwys isod rai o'r atebion a gafodd y tîm gan rieni a oedd yn derbyn eu talebau terfynol yr wythnos hon ac roeddwn wrth fy modd o weld rhai o'r negeseuon diolch a anfonwyd gan rieni.
"Does dim modd diolch digon am eich help a'ch cefnogaeth ...Diolch o galon am eich gwaith caled."
"Diolch yn arbennig am eich amynedd yn esbonio sut i'w ddefnyddio. Yn gwerthfawrogi yn fawr iawn, rhieni a dyn ifanc."
"Rydym mor ddiolchgar am y talebau drwy gydol y cyfnod hwn, diolch yn fawr xx Gofalwch amdanoch eich hun XX"
Rwy'n gwybod bod y gwaith hwn wedi bod yn heriol a dweud y lleiaf. Gwn hefyd fod y cydweithwyr hynny sydd wedi bod yn darparu'r gwasanaeth wedi gweithio llawer o nosweithiau hwyr a boreau cynnar ac wedi rhoi cymorth hanfodol i deuluoedd sy'n wynebu caledi anhygoel ar adeg anodd iawn.
Mae effaith y gwaith hwn wedi bod yn enfawr ac mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi camu i’r adwy pan oedd eu hangen ar eu cymuned. Mae'n siŵr y bydd diwedd y cynllun yn dod â heriau newydd ond rwy'n hyderus y byddwn ni unwaith eto yn gallu eu goresgyn.
Mae derbynfa’r Swyddfeydd Dinesig i'r cyhoedd wedi ailagor yn rhannol yr wythnos hon hefyd. Mae'r adborth a gawsom gan y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn a hoffwn ategu fy niolch o'r wythnos diwethaf i'r cydweithwyr hynny sy'n dychwelyd i rolau wyneb yn wyneb. Mae hyn yr un mor wir am bawb sy'n gweithio yn ein llyfrgelloedd sydd wedi croesawu aelodau'n ôl drwy eu drysau yr wythnos hon.
Mae'r cyfleusterau hyn yn chwarae rhan hanfodol i gyfoethogi bywydau llawer o drigolion ac ni ddylid tanbrisio'r effaith ar les yn ein cymunedau o ganlyniad i'w hailagor. Yr wythnos hon yn unig daeth 329 o bobl i gasglu un o'r bagiau clicio a chasglu o lyfrau, a 76 wedi trefnu apwyntiad i bori drwy'r llyfrau sydd ar gynnig neu ddefnyddio un o'r cyfrifiaduron.
Mae'r nifer o ffyrdd y mae ein hymateb i'r pandemig wedi cefnogi cymunedau ac wedi gwella'r ffyrdd yr ydym yn gweithio'n gydweithredol yn fewnol a gyda'n partneriaid yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni gymryd yr amser i'w gydnabod a dysgu yn ei sgil.
Cymerwyd cam tuag at hyn yr wythnos hon gyda lansio project ymchwil i effaith yr ymateb Covid-19 ar weithio mewn partneriaeth. Mae'r Bartneriaeth Iechyd A Gofal Cymdeithasol Integredig yn arwain y gwaith hwn sydd wedi dechrau gyda chyfnod peilot. Bydd pob cydweithiwr yn cael cyfle i gyfrannu at hyn yn ystod y misoedd nesaf. Efallai bod y rheini ohonoch sy'n byw yn y Barri wedi clywed eisoes y bydd newidiadau yn y ffordd y cesglir gwastraff yn y dref o fis Hydref ymlaen (ceir gwybodaeth fanwl am hyn ar ein gwefan i'r rhai ohonoch sydd heb glywed).
Mae'r newidiadau'n dilyn y broses o gyflwyno casgliadau ailgylchu ar wahân yn y Fro wledig y llynedd ac mae ailgychwyn y rhaglen bwysig hon o waith yn arwydd arall o'n sefydliad yn symud yn ôl tuag at rywbeth sy'n ymdebygu i fusnes fel arfer.
Ac yn olaf, project mawr arall sydd bellach wedi ailgychwyn yw cyflwyno Office 365. Nid oes modd gorbwysleisio’r baich fu ar ysgwyddau ein cydweithwyr yn y gwasanaethau TGCh dros y misoedd diwethaf.Er gwaethaf hyn, er mwyn cefnogi ein newid cyflym mewn diwylliant o weithio yn y swyddfa i weithio gartref, mae'r tîm wedi gallu dod ag amserlen gosod y sefydliad cyfan gyda Office 365 ymlaen i ddiwedd mis Hydref, ddeufis cyn yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol. Bydd llawer ohonoch eisoes yn gyfarwydd â defnyddio MS Teams ar gyfer galwadau fideo a negeseua gwib.
Mae'r apps ychwanegol sydd ar gael o fewn Office 365 yr un mor dda ar gyfer ein helpu ni i gyd i weithio mewn ffyrdd newydd, ac mae tîm project O365 wrthi'n datblygu rhaglen hyfforddiant a chefnogaeth ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod pob aelod o staff yn gallu gwneud defnydd ohonynt. Mae hyn wrth gwrs yn ychwanegol i'r ystod eang o gymorth ac arweiniad i staff sy'n gweithio o bell ar gael ar StaffNet+ ac iDev. Diolch i chi gyd unwaith eto a mwynhewch y penwythnos.
Diolch yn fawr iawn.
Rob Thomas.