Annwyl Gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau neges yr wythnos hon gyda diolch i'r holl staff yn ein hysgolion a thimau Dysgu a Sgiliau, Eiddo ac Adnoddau Dynol y Cyngor, a phawb arall sydd wedi gwneud cyfraniad, i ymdrech gwbl wych dros y ddau fis diwethaf i gael ysgolion ym Mro Morgannwg yn barod i ailagor yr wythnos nesaf.
Hoffwn ddymuno'r gorau i bob disgybl yn y Fro ar ddechrau blwyddyn academaidd a fydd eto'n wahanol i unrhyw un arall. Rwy’ wedi canmol gwydnwch plant a phobl ifanc yn y ffordd y maent wedi ymateb i Bandemig Covid-19 sawl gwaith yn y negeseuon wythnosol hyn, ond mae'n werth ei ailadrodd. Prin yw'r grwpiau sydd wedi wynebu cymaint o darfu ar eu bywydau â phobl ifanc, ffaith sy'n cael ei hanwybyddu'n rhy aml.
Bydd dychwelyd i'r ysgol yn gam tuag at normalrwydd i lawer o rieni ac yn anochel yn arwain at gynnydd yng nghyswllt pobl â'i gilydd. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod hyn yn digwydd ar adeg pan fo’r coronafeirws yn dal i fod gyda ni i raddau helaeth iawn.
Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos hon ar y gyfradd gynyddol trosglwyddiad cymunedol yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae hyn yno ganlyniad uniongyrchol i bobl nad ydynt yn glynu'n gaeth at fesurau cadw pellter cymdeithasol.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gadw ein gilydd yn ddiogel. Y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hyn yw drwy olchi dwylo'n rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol, a lle nad yw hyn yn bosibl gwisgo gorchudd wyneb. Mae hyn yr un mor berthnasol yn y gweithle ag yn unman arall.
Fel Cyngor rydym wedi ymateb yn dda i ysgogi llawer iawn o'n staff i weithio gartref. Hoffwn ddiolch i bawb am groesawu'r newid hwn ac am ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.
Ein safbwynt ni fel sefydliad, yn unol â safbwynt Llywodraeth Cymru, yw y dylai unrhyw un sy'n gallu gweithio gartref barhau i wneud hynny.
Mae'r trefniadau hyn wedi'u rhoi ar waith i sicrhau diogelwch ein cydweithwyr ac i gyfyngu'n llym ar nifer y bobl sy'n symud o amgylch swyddfeydd.
Gwyddom mai dewis llawer o bobl fyddai cymysgedd hyblyg o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei dreialu'n fuan yn y prif swyddfeydd. Yn y cyfamser, mae StaffNet+ ac iDev ill dau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am gynnal asesiadau DSE ac awgrymiadau ar gyfer gweithio gartref.
Lle mae angen i staff weithio o swyddfa ar brydiau – er enghraifft, lle na ellir cwblhau tasgau'n llawn o gartref – rydym o ddydd Llun yn argymell bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo mewn mannau cymunedol fel coridorau a cheginau lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl.
Mae hyn yn unol â chanllawiau diweddaraf Prif Swyddog Meddygol Cymru ac mae'n benderfyniad sydd wedi'i wneud yng ngoleuni'r cynnydd diweddar mewn achosion o COVID-19 yng Nghaerdydd a'r Fro.
Rwyf hefyd yn falch o allu cyflwyno'r newyddion, a hwnnw yn ysgrifenedig, bod dyfarniad cyflog o 2.75% wedi'i gytuno'n genedlaethol ar gyfer llywodraeth leol.
Daw hwn i rym o fis Ebrill 2020 ar gyfer y rhai ar raddfeydd cyflog Statws Sengl a Phrif Swyddogion y JNC, ac o fis Medi ymlaen ar gyfer gweithwyr Soulbury.
Dim ond yr wythnos diwethaf y cytunwyd ar y dyfarniad cyflog felly rwy'n siŵr y bydd yr holl staff yn ymuno â mi i ddiolch i'n tîm Cyflogres am eu gwaith cyflym wrth brosesu'r newidiadau fel y cânt eu hadlewyrchu yn natganiadau cyflog cydweithwyr ym mis Medi, gyda thaliad wedi ei ôl-ddyddio i fis Ebrill lle mae hynny’n berthnasol.
Mae'r graddfeydd cyflog newydd i'w gweld ar StaffNet+
Yn olaf, cefais lythyr gwych o ddiolch gan un o drigolion Bro Morgannwg yr wythnos hon. Mae'r llythyr yn dechrau drwy ddweud:
"Roeddwn am ddiolch yn fawr i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled anhygoel a'u hymrwymiad i drigolion y Fro yn ystod yr amseroedd digynsail hyn"
ac aiff ymlaen i ddweud:
"Rwyf wedi arsylwi ar eu dealltwriaeth o gadw pellter cymdeithasol wrth ymgymryd â'u swyddi, eu caredigrwydd a'u sgiliau i gadw popeth i fynd pan oedd popeth arall fel pe bai'n graddol ddod i stop".
Rwy’ wedi defnyddio'r neges wythnosol hon yn rheolaidd i gyfleu fy niolch, ond rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno ei bod yn wych cael adborth mor gadarnhaol a chynnes gan breswylydd. Dylai'r holl staff fod yn falch iawn o faint rydym wedi gallu ei gyflawni mewn cyfnod heriol iawn. Yr her fydd cynnal ein hymdrechion wrth i ni barhau i ymateb a hynny i amgylchiadau sy'n newid ac i ffyrdd newydd o weithio.
Diolch i chi i gyd unwaith eto am eich gwaith yr wythnos hon. Gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i fwynhau penwythnos Gŵyl y Banc.
Diolch yn fawr iawn
Rob Thomas.