Annwyl Gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau’r wythnos hon gyda neges o gefnogaeth i holl rieni'r disgyblion a'r disgyblion eu hunain a gafodd ganlyniadau Safon Uwch, Safon UG neu TGAU dros y pythefnos diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod gofidus iawn yn ein cartref fel rwy’n siŵr ei fod wedi bod i lawer ohonoch.
Ar ôl misoedd o darfu ar eu haddysg a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gorfodwyd plant a phobl ifanc i ddelio â set arall o broblemau dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Gallaf sicrhau pob un ohonoch yr oedd y sefyllfa a ddatblygodd wedi effeithio arnoch mewn rhyw ffordd ein bod yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi newid y broses asesu ac yn fodlon iawn bod system decach bellach wedi'i rhoi ar waith.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl staff sy'n gweithio mewn ysgolion yn y Fro sydd unwaith eto wedi gwneud cymaint i gefnogi disgyblion, ac yn enwedig dros y pythefnos diwethaf. Gyda chymaint o bwyslais ar ganlyniadau a chyrhaeddiad, weithiau mae'n hawdd anghofio gwerth a phwysigrwydd y cymorth y mae ysgolion yn ei roi i bobl ifanc yn y cyfnod pryderus hwn.
Rwy’n gwybod y bydd athrawon a staff ysgolion wedi gweithio'n galed i dawelu meddwl disgyblion dros y pythefnos diwethaf ac y bydd eu geiriau o gefnogaeth ac anogaeth wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Ar wahân i ganlyniadau’r arholiadau, rwy’n gwybod bod pob un o’n hysgolion yn parhau i weithio’n galed i roi trefniadau ar waith i hwyluso’r broses o ddychwelyd yn llawn amser i’r ysgol ym mis Medi cymaint â phosibl. Mae gweithio tuag at adfer yr hen drefn cymaint â phosibl hefyd yn parhau mewn sawl maes arall o'n sefydliad.
Er enghraifft, mae ein timau Gwasanaethau Democrataidd a Gwasanaethau TGCh wedi gwneud llawer iawn o ymdrech i alluogi cylch llawn cyfarfodydd y Cyngor a phwyllgorau i ailddechrau o bell o fis Medi ymlaen. Bydd amserlen lawn o gyfarfodydd y Cabinet a chyfarfodydd pwyllgorau eraill yn ailddechrau o 7 Medi, gyda Chyfarfod Blynyddol y Cyngor yn cael ei gynnal ar 14 Medi a chyfarfod y Cyngor Llawn ar 21 Medi. Bydd y ddau gyfarfod cyngor hyn yn cael eu cynnal o bell a'u darlledu ar-lein, yn ogystal â chyfarfodydd y Cabinet a chyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y dyfodol rhagweladwy. Bydd hyn yn ailgychwyn gweithdrefnau a phroses gwneud penderfyniadau ffurfiol y Cyngor ac mae'n gam pwysig yn ein hadferiad yn sgil pandemig y coronafeirws.
Ystyrir bellach waddol ein cynllun Arwyr y Fro, nawr bod Llywodraeth Cymru wedi atal yr angen i hunan-warchod am y tro. Rwy'n falch iawn o ddweud bod ein Tîm Cymorth Argyfwng wedi dosbarthu mwy na 6000 o barseli bwyd i breswylwyr agored i niwed tra oeddent yn hunan-warchod. Roedd hwn yn ymdrech wych arall gan y tîm gyda llawer o adrannau’n cymryd rhan, a hefyd yn un lle roedden ni'n gweithio'n agos gyda sefydliadau partner megis GGM, cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Unwaith eto, rydym wedi cael ymatebion gan ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n dangos pa mor werthfawr fu'r gwaith hwn. Dyma rai a dderbyniodd y tîm yn ystod y penwythnos diwethaf wrth iddo weithio'n galed i ddosbarthu’r swp olaf o fwyd.
"Diolch am yr alwad ffôn. Rwy'n deall mai hwn oedd y parsel bwyd olaf a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn ymwneud â’r cymorth a dderbyniais."
"Rwy'n falch iawn o ddweud y cefais fy mharsel bwyd ddoe a rhaid dweud fy mod yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth caredig ac ystyriol hwn rydych yn ei ddarparu. Diolch yn fawr.”
"Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am drefnu'r gwasanaeth hwn."
"Cyrhaeddodd fy mharsel bwyd yn ddiogel ddoe. Mae’r ddarpariaeth wythnosol wedi bod yn uchafbwynt fy wythnos, a dwi mor ddiolchgar fy mod wedi derbyn y parseli. Maen nhw wedi fy helpu i a'm teulu’n fawr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Diolch yn fawr i Arwyr y Fro a phawb sydd wedi helpu i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Dw i'n mynd i weld ei eisiau."
Mae adborth cadarnhaol fel hyn yn dangos yn glir werth a phwysigrwydd y gwasanaethau hanfodol hyn a ddarperir i'n trigolion mwyaf agored i niwed yn ystod amgylchiadau anodd a heriol – da iawn a diolch o galon i bawb sydd wedi cymryd rhan ac wedi gwneud y gwasanaeth yn gymaint o lwyddiant.
Yn ystod y cyfnod cloi ac yn fwy diweddar wrth i ni ddechrau llacio’r cyfyngiadau a symud i’r cyfnod adfer, mae cyfathrebu mewnol ac allanol effeithiol wedi bod yn bwysig iawn, ac mae'n parhau i fod. Mae'n sicrhau ein bod yn gallu cysylltu nid yn unig â defnyddwyr gwasanaeth ond hefyd â’r staff sydd wedi bod yn hanfodol wrth gadw gwasanaethau allweddol i fynd.
Nid yw hyn wedi bod heb ei heriau, a hoffwn ddiolch yn fawr i Dîm Cyfathrebu'r Cyngor am y gwaith rhagorol mae wedi'i wneud wrth sicrhau ein bod wedi darparu gwasanaeth cyfathrebu sy'n gyson effeithiol drwyddi draw.
Mae gwaith caled ac ymroddiad y tîm wedi ein galluogi i gyflwyno rhai negeseuon pwysig iawn, ein negeseuon ni a rhai'r ymgyrchoedd cenedlaethol a roddwyd ar waith i gadw pobl yn ddiogel.
Yn olaf, hoffwn sôn eto am yr ymgyrch Symud Mwy, Bwyta’n Dda yr ydym yn ei chynnal, ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Rwyf wedi gweld nifer o gydweithwyr yn postio eu hymdrechion ar-lein. I unrhyw un nad yw eto wedi cael cyfle i edrych ar y wefan na'r wybodaeth ar StaffNet+, mae llawer o syniadau gwych am sut i gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich diwrnod a digon o wybodaeth am y manteision y bydd hyn yn eu dwyn.
Diolch i chi i gyd unwaith eto am eich ymdrechion a'ch brwdfrydedd parhaus.
Diolch yn fawr iawn.