#itsaboutme
Dydd Llun 7 Medi (1pm – 2pm)
Mae'n dymor Arfarnu unwaith eto a bydd Datblygu Sefydliadol a Dysgu yn cynnal sesiwn i'r holl staff ystyried y broses #itsaboutme, yn ogystal â phwysigrwydd datblygiad personol.
- Sut mae’r broses #itsaboutme yn gweithio?
- Beth yw manteision ei chwblhau?
- Pa effaith y mae’n ei chael arnoch chi fel unigolyn?
- Sut mae'n effeithio ar y sefydliad ehangach?
Bwcio lle.
Hawl i Holi gyda Rob Thomas
Dydd Mercher Medi 16 (11am – 12pm)
Yn dilyn llwyddiant y sesiwn flaenorol, bydd Rob Thomas yn cynnal sesiwn Hawl i Holi arall. E-bostiwch eich cwestiynau i:
Bydd sgwrsflwch holi ac ateb byw hefyd yn ystod y sesiwn lle gallwch ofyn cwestiynau ar sail yr adborth a roddir yn ystod y digwyddiad byw.
Bwcio lle.
Wythnos Ailgylchu
Dydd Mercher 23 Medi (11am – 12pm)
Yn sgil cyflwyno'r casgliadau ailgylchu ar wahân i'r Barri, bydd Colin Smith (Rheolwr Gweithredol - Gwasanaethau Cymdogaeth) yn cynnal sesiwn i drafod y newidiadau.
- Sut bydd y newidiadau'n effeithio ar drigolion y Fro?
- Beth mae'r Cyngor yn ei wneud gyda'r gwastraff a gesglir?
- Beth yw'r broblem gyda phlastigau?
- Unrhyw gwestiynau eraill ynghylch gwastraff ac ailgylchu.
Bwcio lle.
Office 365
Dydd Mercher 30 Medi (11am – 12pm)
Wrth i'r broses o gyflwyno Microsoft 365 ailddechrau, bydd Paige Gershenson a James Rees o'r Tîm Gwella Busnes yn cynnal digwyddiad 365 yn fyw.
- Edrych ar nodweddion Office 365
- Manteision defnyddio Microsoft Teams
- Sut gallwch chi wneud y gorau o'r feddalwedd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech iddynt gael eu hateb yn ystod y sesiwn, anfonwch e-bost i:
Bwcio lle.