Staffnet+ >
A yw'r ymateb i Covid wedi ein hysgogi i weithio mewn partneriaeth yn well?
A yw’r ymateb i Covid wedi ein hysgogi i weithio mewn partneriaeth yn well?
Mae Grŵp Cydgysylltu Ymchwil, Arloesedd a Gwella Caerdydd a'r Fro (RI&IC) wedi dechrau ar ddarn o waith i asesu sut mae effaith COVID-19 wedi ysbrydoli gwaith partneriaeth mwy effeithiol.
11 Awst 2020
O dan ymbarél Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Caerdydd a'r Fro, mae'r RI&IC yn cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.
Yn ystod y pedwar mis nesaf, bydd y prosiect yn ceisio casglu adborth gan weithwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn rolau sy'n gysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol o fewn y tri sefydliad statudol a'u partneriaid yn y trydydd sector a’r sector preifat.
Bydd y prosiect hefyd yn ceisio barn y rheini a gafodd ofal a chymorth gan y sefydliadau neu'r grwpiau hyn ers dechrau'r argyfwng COVID-19.
Cynhelir y prosiect mewn dau gam gan ddefnyddio cyfuniad o arolygon a chyfweliadau.
Mae'r cam cyntaf yn gynllun peilot a drefnwyd i ddechrau ar 7 Awst 2020 gyda'r gwasanaeth Rhyddhau i Asesu (D2A) a sefydlwyd fel rhan o'r prosiect “Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned".
Bydd y cynllun peilot yn rhoi cyfle i brofi'r dull gweithredu er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'r diben. Cysylltir yn uniongyrchol â chydweithwyr sy'n gweithio yn y gwasanaeth D2A drwy e-bost i roi gwybod iddynt sut y gallant roi adborth ar eu barn a'u profiadau i Dîm y Prosiect.
Bydd ail gam y prosiect, a fydd yn gofyn am adborth gan unrhyw un sy'n gweithio mewn rôl sy'n gysylltiedig ag iechyd neu ofal cymdeithasol, yn dechrau ym mis Medi.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â cavpartnership@wales.nhs.uk.