Staffnet+ >
Ynys y Barri yn cynnal Ymweliad Brenhinol annisgwyl
Ynys y Barri yn cynnal Ymweliad Brenhinol annisgwyl
Daeth Dug a Duges Caergrawnt i Ynys y Barri ddydd Mercher 5 Awst, ar eu hymweliad ar y cyd swyddogol cyntaf ers dechrau’r cyfnod cloi.
Mae llawer o waith i’w wneud i gynllunio Ymweliad Brenhinol, yn enwedig yn gyfrinachol er mwyn osgoi denu torfeydd yn y cyfnod sydd ohoni, ond nid oedd yr her logistaidd yn rhy fawr i’n swyddog digwyddiadau profiadol a medrus iawn, Sarah Jones.
Aeth Sarah ati’n dawel i drefnu diogelwch ar gyfer y dydd yn ogystal â chysylltu â rhai perchenogion busnes ar Ynys y Barri yr oedd y Dug a’r Dduges am siarad â nhw am effaith Covid-19 ar y diwydiant twristiaeth. Roedd gan Sarah ychydig dros bythefnos i wneud yr holl drefniadau angenrheidiol, gan weithio’n agos â Phalas Kensington trwy’r amser.
Aeth y Dug a’r Dduges i’r arcêd ddiddanu o dan y Lloches Orllewinol yn gyntaf, a wnaed yn enwog gan Nessa o Gavin and Stacey, cyn mynd i Marcos Cafe.
Pan aethon nhw i’r Lloches Ddwyreiniol i glywed am broject adnewyddu gwerth £6 miliwn y Cyngor, roedd Rob Thomas, Nia Hollins a Marcus Goldsworthy yno i’w cyfarch.


Wedyn gwnaeth Rob eu cyflwyno i berchenogion Bay 5 Coffee cyn dangos y cabanau traeth iddyn nhw, sydd bellach yn eiconig.


Gan siarad am yr ymweliad, dywedodd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr:
“Roedd ymweliad y Dug a’r Dduges ag Ynys y Barri’n gyfle gwych i ni ddangos y gyrchfan i bawb yn y byd. Roedd angen i ni gadw pethau’n dawel er mwyn peidio â denu torfeydd mawr i’r gyrchfan. Ond ers i’r newyddion gael eu rhannu, cafwyd llawer o sôn cadarnhaol am Ynys y Barri yn y wasg ac ar y cyfryngau, ac mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu o hyd.
“Hoffwn ddiolch i Sarah am ei gwaith yn cydlynu pob elfen o’r ymweliad ac am gynrychioli’r Cyngor yn hynod dda wrth ddelio â Phalas Kensington a’r holl fasnachwyr ar Ynys y Barri. Dylid hefyd ganmol yr holl staff rheng flaen sy’n gweithio ar yr Ynys a weithiodd mor galed i sicrhau bod y gyrchfan yn edrych mor dda ag arfer. Da iawn."

O ran y sylw yn y cyfryngau, mae’r Cabanau Traeth i’w gweld ar gyfrif Instagram swyddogol y Dug a’r Dduges hyd yn oed. Gwyliwch y fideo isod i gael cipolwg ar eu diwrnod.