Staffnet+ >
Mae Llyfrgelloedd a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau
Mae Llyfrgelloedd a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau
Dydd Iau 23 Ebrill 2020
Er bod holl ganghennau’r Llyfrgell ledled Bro Morgannwg, ar gau, mae staff y llyfrgell wedi bod yn brysur yn hyrwyddo’r gwasanaethau ar-lein rydym fel awdurdod lleol yn eu cynnig.
Ac mae’r gwasanaethau hynny’n ehangu. Yn ogystal ag ystod o 250 o deitlau cylchgrawn poblogaidd sydd ar gael i’w lawrlwytho, mae eComics yn ehangu i gynnwys teitlau Disney o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf.
Mae Ancestry.com, gwasanaeth tanysgrifio sydd ond ar gael fel arfer yn adeiladau’r llyfrgell bellach ar gael ar-lein am ddim. Bellach gall aelodau’r llyfrgell sydd â cherdyn a PIN fewngofnodi ac ymchwilio i hanes eu teuluoedd gartref.
Oherwydd y ton o boblogrwydd eLyfrau, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol o £100,000 i lyfrgelloedd Cymru er mwyn prynu rhagor o eLyfrau.
Bu llyfrgelloedd yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol, yn hyrwyddo eu gwasanaethau digidol. Ac mae’n gweithio, mae dros 200 o ddefnyddwyr newydd wedi ymuno yn y mis diwethaf.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf gan y llyfrgelloedd ar Twitter a Facebook ac ymuno â sesiynau Amser Stori byw.
Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell ac rydych chi eisiau cael mynediad at bopeth sydd gan y llyfrgell i’w chynnig ar-lein ewch i’r prif dudalen catalog a chliciwch ar y botwm 'ymuno' er mwyn cael rhif cerdyn a rhif PIN.
Yn y cyfamser, bu’r timau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Dysgu Cymraeg yn cynnig dosbarthiadau a chymorth digidol i’w dysgwyr ar-lein.
Mae Dysgu Cymraeg y Fro wedi trosglwyddo 32 o gyrsiau Cymraeg i oedolion i blatfformau dysgu o bell ar sail gwersi mewn ystafelloedd dosbarth.
Mae tiwtoriaid yn defnyddio’r platfform ar-lein Zoom i gyfarfod gyda dysgwyr, a gwahoddwyd myfyrwyr i ymuno â dosbarthiadau amgen os bydd eu hamgylchiadau yn ystod y cyfyngiadau yn golygu bod eu dosbarth arferol yn anghyfleus. Mae dosbarth canu gydag Aled Hughes ar gael ar-lein bellach hefyd.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Dysgu Cymraeg) yn diweddaru eu hadnoddau ar eu gwefan yn ddyddiol er mwyn galluogi dysgwyr i barhau i ymarfer gartref. Mae rhai o’n tiwtoriaid Dysgu Cymraeg wedi bod yn cyfrannu at y rhain.
Eto i ddod y tymor hwn mae grwpiau sgwrsio anffurfiol ar-lein, cyrsiau darllen a chwrs blasu newydd am ddim am ddeng wythnos, “Cymraeg yn y Cartref” i deuluoedd.
Ydych chi wedi dod o hyd i ffordd newydd o weithio? Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni beth rydych chi wedi bod yn ei wneud.