Helpwch y GIG trwy lawrlwytho App Olrhain Symptomau COVID-19

Rydyn ni'n cefnogi Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i hyrwyddo'r ap Olrhain Symptomau COVID-19, a ddatblygwyd gan Goleg King’s, Llundain a'r cwmni gwyddoniaeth gofal iechyd ZOE. 

Maen nhw'n gofyn i bobl lawrlwytho'r ap a chofnodi  symptomau dyddiol i'w helpu i greu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Mae'r ap ar gyfer pawb, nid yn unig y rhai sydd â symptomau.


Bydd y data o'r ap Olrhain Symptomau COVID-19 yn cael ei rannu bob dydd gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Bydd yn rhoi awgrym cynnar o ble fydd pobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn y dyfodol.

Mae mwy na 38,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi cofrestru gyda’r ap, ond mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru angen cynifer â phosibl i wneud hynny i sicrhau bod y data’n ddefnyddiol. 

Gallwch chi hefyd eu helpu i ddeall y feirws hwn yn well drwy lawrlwytho'r ap, a chofnodi sut rydych chi'n teimlo bob dydd. 

Ymunwch â'r degau o filoedd yng Nghymru sydd eisoes yn defnyddio’r ap Olrhain Symptomau COVID-19 drwy ei lawrlwytho o’r Apple App Store neu o Google Play. 

Dewiswch yr ap a ddatblygwyd gan Zoe Global Limited - chwiliwch am y logo hwn:

C-19 app logo