ABL Logo

Rhwydwaith Abl

Rhwydwaith staff anabledd Cyngor Bro Morgannwg.

Mae Abl yn croesawu aelodaeth gan staff ag anableddau neu gyflyrau iechyd neu unrhyw nam hunan-nodwyd arall. Mae Abl hefyd yn croesawu aelodaeth gan staff sy'n rhoi cyngor neu gymorth i bobl ag anableddau, yn ogystal â staff sy'n dymuno ymuno fel cynghreiriaid.

Mae Abl yn anelu at:

  • Darparu cefnogaeth a gwybodaeth i staff ag anableddau, yn ogystal â chanllawiau i reolwyr a chynghreiriaid

  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol anableddau a chyflyrau iechyd er mwyn helpu i wella profiadau a pherthnasoedd

  • Llunio a dylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau drwy fod yn grŵp cynrychioliadol ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori

  • Hyrwyddwr a chefnogi staff ag anableddau yn y gweithle i sbarduno mwy o ganlyniadau a hyrwyddo llais staff ag anableddau yn y Cyngor.

Bydd Abl yn gweithio gyda'r rhwydweithiau staff eraill i hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd, ymwybyddiaeth, a derbyn ledled Bro Morgannwg.

Mae Abl yn cydnabod y gall anabledd olygu pethau gwahanol i wahanol bobl felly byddwn yn cynnwys ac nid eithrio, gan eich cefnogi ym mha bynnag ffordd rydych chi'n disgrifio eich anabledd.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd. Mae ein polisi cydraddoldeb yn dweud:

Mae'r model hwn yn dweud ein bod ni, fel cymdeithas, yn achosi anabledd drwy y ffordd yr ydym yn trefnu pethau. Mae'n edrych ar ffyrdd o gael gwared ar rwystrau sy'n cyfyngu ar ddewisiadau bywyd i bobl anabl. Pan fyddwn yn gwneud hyn, gall pobl anabl fod yn annibynnol ac yn gyfartal mewn cymdeithas. Mae'n rhoi dewis a rheolaeth i bobl dros eu bywydau.

 

 

Sut i ymuno

Os ydych am ymuno ag Abl, llenwch y ffurflen aelodaeth os gwelwch yn dda.

Ffurflen aelodaeth Abl

Pwy yw pwy

Dewch i gwrdd â'n Tîm Arweinyddiaeth Abl!

AmberAelod

Amber Smith

Gweithiwr Cymdeithasol yn C1V - Tîm Derbyn ac Asesu Oedolion

 

Dewch i adnabod Amber!

KatAelod

Katrina Knibbs

Swyddog Cynhwysiant Dechrau'n Deg

 

Dewch i adnabod Katrina!

FionnaAelod

Fionna Stolzenburg

Swyddog Datblygu'r Gweithlu Tîm Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar

 

Dewch i adnabod Fionna!

Phil GauciAelod

Phil Gauci

Swyddog Cymorth Llyfrgell Peripatetig

 

Dewch i adnabod Phil!

Cysylltwch â ni!

Gallwch gysylltu â ni yma (e-bost Abl) neu drwy'r ffurflen ymholiad/adborth

Ffurflen ymholiad

Banc Adnoddau

Edrychwch ar ein banc adnoddau am ddolenni i sefydliadau defnyddiol, cyngor cyffredinol i bobl ag anableddau, gwybodaeth am rwydweithiau anabledd, a chyngor a phecynnau cymorth penodol i reolwyr a chyflogwyr.

Banc Adnoddau