Rhowch anrheg
Yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at y Nadolig, bydd ein corachod yn brysur yn pacio bag anrhegion i bob plentyn sy'n cynnwys rhywbeth y mae ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud wrthym eu bod yn ei hoffi. Rydym wedi casglu rhestr o rai o'r anrhegion mwyaf cyffredin ar restrau Nadolig eleni. Os hoffech drefnu casgliad anrhegion, neu roi anrheg, gellir gollwng y rhain yn ystafell 3 ar lawr tri yn y Swyddfeydd Dinesig (dilynwch y posteri!)
Os nad oes gennych fynediad i'r Swyddfeydd Dinesig anfonwch e-bost at santascause@valeofglamorgan.gov.uk i drefnu gollwng.
Sylwer bod rhaid i bob anrheg fod yn newydd, heb eu defnyddio ac yn eu pecynnu gwreiddiol i gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch - os oes gennych anrhegion ail law beth am ystyried eu rhoi i siop Ailddefnyddio Enfys yn CWRC y Barri, neu Eto ar Heol Holton.
Peidiwch â lapio eich anrheg - rydym yn darparu anrhegion i deuluoedd heb eu lapio fel bod rhieni a gwarcheidwaid yn gwybod beth maen nhw'n rhoi eu plant ar gyfer y Nadolig.
Os ydych chi'n rhoi anrheg sydd angen batris, rhowch y rhain os gallwch.