Oracle Fusion

Canllaw Oracle Fusion

Eich Canllaw i'r System Oracle Fusion newydd  

Cael mynediad at eich Slipiau Cyflog ar y System Oracle newydd.  

O Ebrill 2023 rydych chi nawr yn gallu gweld eich slip cyflog ar y system oracle newydd. Mae'r system hon yn darparu dadansoddiad cynhwysfawr o'ch enillion, didyniadau, a threthi, gan roi golwg dryloyw i chi ar eich cyflog.  

Bydd y system hon yn disodli E-pay, fodd bynnag byddwch yn dal i allu cael mynediad i slipiau cyflog blaenorol am y 12 mis nesaf.  

Isod byddwn yn eich arwain drwy'r camau i gael mynediad i'ch slip cyflog a sut y gallwch newid eich manylion personol ar y system Oracle newydd.  

  • Sut i fewngofnodi i'r system

    Yma byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ar sut i fewngofnodi i'r system a newid eich cyfrinair.   

     

    Oracle Fusion Non-Corporate Login

  • Tresolwg o'r system

    Os hoffech edrych ar y system newydd, beth y gall ei wneud a sut mae'n eich hysbysu bod diweddariad wedi bod i'ch cyfrif, gwyliwch y fideo isod:  

  • Dulliau Talu a Slipiau Cyflog 

    Yn ystod y fideo yma byddwch chi'n dysgu sut i wirio eich manylion bancio, eu newid a gweld eich slipiau cyflog.  

     

  • Newid eich cyfrif banc a manylion talu 

    Wedi gwylio'r fideo ond mae dal angen tipyn o help ar sut i newid eich cyfrif banc a manylion talu? Rydym hefyd wedi llunio'r canllaw cyfeirio cyflym hwn i chi gyfeirio ato.  

     

    Setting up or changing your bank account and payment details

  • Sut i roi Taflen Amser ar Oracle

    Mae'r fideo hon egluro sut i roi Taflen Amser ar Oracle:

     

     

  • Cwestiynnau Cyffredin

    Rydym wedi creu rhestr o gwestiynau cyffredin sydd wedi'u codi yn ystod proses datblygu a phrofi oracl.

     

    Cymerwch olwg ar y tudalen Cwestiynau Cyffredin i weld a yw eich ymholiad wedi’i gynnwys.

     

    Os oes angen unrhyw gefnogaeth bellach arnoch yn ymwneud â'r Meddalwedd Oracle Fusion newydd, cysylltwch â Thîm Gweithredu Oracle Fusion drwy e-bostio:

    fusion@valeofglamorgan.gov.uk

  • Angen fwy o wybodaeth?  
    Beth am gysylltu ag un o'n Hyrwyddwyr Oracle Fusion! Ewch draw i dudalen Cyswllt Hyrwyddwyr ar Staffnet+ i gael rhagor o wybodaeth.