Ystyrir bod pobl yn gysylltiadau posibl os ydynt wedi bod mewn cysylltiad agos â’r unigolyn sydd wedi cael prawf positif hyd at ddau ddiwrnod cyn iddo ddangos symptomau gyntaf ac am saith diwrnod ar ôl hynny.
Mae enghreifftiau o gyswllt agos yn cynnwys:
- wedi bod o fewn 1 metr i unigolyn sydd wedi cael prawf positif, mae unigolyn sydd wedi cael prawf positif wedi pesychu arnoch neu gael sgwrs wyneb yn wyneb, cyswllt corfforol croen ar groen, neu unrhyw fath arall o gyswllt o fewn 1 metr am funud neu fwy;
- wedi bod o fewn 2 fetr i unigolyn sydd wedi cael prawf positif am fwy na 15 munud;
- wedi teithio mewn cerbyd gydag unigolyn sydd wedi cael prawf positif.
Nid yw hyn yn berthnasol i bobl sydd â rolau proffesiynol ac sydd wedi defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) yn gywir neu sy’n gweithio y tu ôl i sgrîn neu bared priodol (er enghraifft sgrîn Perspex).
Os yw person sydd wedi cael prawf positif yn gweithio mewn, neu wedi mynd i, leoliad iechyd neu ofal cymdeithasol (e.e. ysbyty, meddygfa, cartref gofal, deintydd), lleoliad addysgol anghenion arbenigol neu garchar/cyfleuster cadw, caiff yr achos ei uwchgyfeirio’n awtomatig i haen ymateb rhanbarthol y gwasanaeth olrhain cysylltiadau.