Cyngor Golchi Dwylo

Wedi'i Ddiweddaru Ddiwethaf 19/03/2020

Cyngor Golchi Dwylo

  • Pryd i Olchi Eich Dwylo

    Mae eich dwylo yn faes bridio i germau, a bydd eu golchi'n rheolaidd yn eich rhwystro rhag lledu bacteria i bobl eraill ac ar draws arwynebeddau megis dolenni drysau, canllawiau grisiau ac ati. Dylech olchi eich dwylo:

    • Ar ôl bod i’r toiled;

    • Cyn bwyta;

    • Cyn, yn ystod ac ar ôl paratoi bwyd;

    • Pan fydd eich dwylo'n amlwg yn fudr;

    • Ar ôl chwythu'ch trwyn, pesychu neu disian.

  • Sut i Olchi Eich Dwylo

    Os nad oes sebon a dŵr ar gael, defnyddiwch ddiheintydd sy'n seiliedig ar alcohol ac sy'n cynnwys o leiaf 60% o alcohol.

    • Gwlychu eich dwylo o dan ddŵr sy'n rhedeg (yn gynnes, os oes modd);

    • Defnyddio sebon

    • Rhwbiwch eich dwylo ynghyd yn egnïol; gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio sebon a dŵr ar bob rhan o'ch dwylo am o leiaf 20 eiliad (gan ganu Pen-blwydd Hapus ddwywaith i chi eich hun). Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhwbio eich cledrau, cefnau eich dwylo, rhwng eich bysedd, eich bysedd, bodiau, arddyrnau a'ch ewinedd;

    • Golchwch eich dwylo wedyn o dan ddŵr sy'n rhedeg;

    • Sychwch eich dwylo'n drylwyr gan ddefnyddio tyweli papur tafladwy neu sychwyr dwylo;

    • Diffoddwch y tapiau gan ddefnyddio'r tywel papur neu eich penelin i osgoi ail-heintio eich dwylo.

    Osgoi cyffwrdd eich llygaid, eich trwyn heb olchi eich dwylo.

  • Ei Ddal! Ei Daflu! Ei Ddifa!

    Cariwch hancesi papur gyda chi a'u defnyddio i ddal peswch / tisian. Rhowch yr hances bapur a ddefnyddiwyd mewn bin gyda chaead. Golchwch eich dwylo fel uchod.

  • Posteri i'w harddangos mewn adeiladau
  • Gweithio o gartref a gweithio ystwyth

    Yn ystod yr amser hwn o ansicrwydd mae'n debygol, os ydych chi'n gallu, y gofynnir i chi weithio o gartref. Mae pecyn ar gael ar iDev, wedi'i anelu at staff a rheolwyr, sy'n cynnwys awgrymiadau ar weithio ystwyth, defnyddio microsoft teams, cynnal cynhyrchiant a gofalu am eich lles.


    iDev Gweithio gartref a gweithio ystwyth.