Using Welsh in the workplace banner

Defnyddio'r Gymraeg yn y Gweithle

Mae'r dudalen hon ar gyfer dysgwyr, siaradwyr, a phawb sy'n gweithio yn y Cyngor neu sydd â diddordeb yn y Gymraeg!

 

Defnyddia dy Gymraeg

Oeddech chi'n gwybod bod defnyddio'r Gymraeg bob dydd yn eich gwneud chi'n siaradwr Cymraeg? Ceisiwch ddefnyddio ychydig o eiriau bob dydd. Efallai mewn sgwrs gyda chydweithiwr neu gwsmer. Neu beth am ymuno â ni i wneud addewid i ddechrau a gorffen pob cyfarfod yn Gymraeg?

Dyma rai geiriau ac ymadroddion syml i'ch helpu i ddechrau:

Shwmae – Hi
Bore da – Good morning
Prynhawn da – Good afternoon
Sut wyt ti? – How are you?
Hwyl – Bye
Hwylfawr – Goodbye
Os gwelwch yn dda – Please
Diolch – Thanks
Diolch yn fawr – Thanks a lot
Croeso – Welcome
Mae’n ddrwg gen i – I’m sorry
Beth yw dy enw di? – What is your name?
Dw i ddim yn deall – I don’t understand
Llongyfarchiadau – Congratulations

 

Dyma rai geiriau ac ymadroddion defnyddiol ar gyfer cyfarfodydd a chofnodion:

Cyfarfod - Meeting
Cyfarfodau - Meetings
Agenda - Agenda
Cofnodion - Minutes
Yn bresennol - Present
Ymddiheuriadau - Apologies
Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Minutes of the previous meeting
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol - The minutes of the previous meeting were agreed
Materion yn codi - Matters Arising
Nid oedd unrhyw faterion yn codi - There were no matters arising
Unrhyw fater arall - Any other business
Y cyfarfod nesa - The next meeting

 

Ymadroddiad y Mis

Ceisiwch ddefnyddio'r ymadrodd canlynol yn y gwaith y mis hwn.

Paned o de?

Cyfieithu: Fancy a cuppa? Paned = cup, o = of, de (from te) = tea

Sut i ddweud:pan ed or dare

Neu ceisiwch paned o goffi?

Dim gwobrau am ddyfalu beth mae'r un hwnnw'n ei olygu!

 

Troedynnau e-bost

Rhaid i'ch llofnod e-bost fod yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys teitl eich swydd a'ch gwybodaeth gyswllt.

Gallwch hefyd gynnwys logo Iaith Gwaith i nodi os ydych chi'n siaradwr Cymraeg neu'n ddysgwr:

Welsh Footer 1                    Welsh Footer 2

 

Negeseuon y tu allan i'r swyddfa

Rhaid i chi gael neges ddwyieithog y tu allan i'r swyddfa ar gyfer eich negeseuon e-bost. Gallwch ddefnyddio'r templed hwn:

Sorry to have missed you. I will be out of the office until dd/mm/yy. For urgent enquiries please contact (name) on (telephone or email), otherwise I will respond to your email upon my return.

Kind regards,


Mae'n flin gen i'ch colli. Fe fyddai allan o'r swyddfa tan dd/mm/bb. Cysylltwch ȃ (name) ar (telephone or email) am ymholiadau brys, fel arall fe fyddai'n ymateb i'ch ebost pan fyddai'n dychwelyd.

Cofion,

 

Diweddarwch eich sgiliau iaith Gymraeg ar Fusion

Mae angen i ni asesu sgiliau Cymraeg ein gweithwyr.

Gallwch hunan-werthuso eich sgiliau iaith Gymraeg ar Fusion — diweddarwch eich lefelau sgiliau Cymraeg ar gyfer darllen, ysgrifennu, siarad a deall.

Mae angen i ni hefyd gael rhestr o siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad felly gwnewch yn siŵr bod eich sgiliau iaith Gymraeg yn gyfoes a rhowch wybod i ni os nad ydych yn hapus i'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost corfforaethol gael eu cadw ar y rhestr hon.

 

Polisïau Staff

Mae nifer o'n polisïau ar gael yn Gymraeg. Gweler y dudalen Adnoddau Dynol am bolisïau.

Mae ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Gallwch weld rhifynnau 2016 yma neu cysylltwch ag Elyn Hannah am fwy o fanylion.

 

Sesiynau Cymraeg anffurfiol i ddysgwyr a siaradwyr

Beth bynnag yw eich lefel o'r Gymraeg, po fwyaf y byddwch chi'n ei defnyddio, y gorau y mae'n mynd! Hyd yn oed os mai dim ond pum munud sydd gennych, dim problem. Galwch i mewn, croeso i bawb!

Cynhelir sesiynau anffurfiol yn wythnosol: Dydd Llun 11am - 11:30am a dydd Gwener 11am - 11:30am

Sesiynau Anffurfiol Cyswllt Zoom