Gweithio gartref yn ddiogel

Mae'r rhan fwyaf o'n staff bellach yn gweithio gartref am y tro cyntaf ac er y bydd rhai ohonom yn gweithio mewn ffordd lai confensiynol na'n swyddfa arferol, mae gosod eich gweithfan yn gywir yn y cartref yr un mor bwysig â phan fyddwch yn y swyddfa, ac mae'r un egwyddorion yn berthnasol.


Gall eich gweithfan fod yn swyddfa gartref neu'n fwrdd yr ystafell fwyta, ac er y gall ymddangos yn haws agor y gliniadur a dechrau gweithio heb wneud unrhyw addasiadau, gall hyn arwain at osgo gwael, sy'n gallu achosi poen ac anghysur dros amser.

Mae'n werth cymryd ychydig funudau i osod eich gweithfan yn gywir bob tro yr eisteddwch i weithio, felly defnyddiwch y canllawiau gosod a gynhyrchwyd gan ein cydweithwyr yn yr adran Iechyd, Diogelwch a Lles i sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl.

Mae'r cwrs Gweithio Gartref – Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE) bellach ar gael ar iDev i bob aelod o'r staff, mae'r modiwl yn cynnwys y Canllaw Gosod Gweithfan, Asesiad Desg Gweithio Gartref a gwybodaeth ddefnyddiol am weithio'n gyfforddus ac yn ddiogel yn y cartref.

Dyma rai cynghorion ar sut i weithio ar liniadur o bell: 

  • Codwch eich sgrin  
    Gwnewch yn siŵr bod eich sgrin wedi'i chodi fel bod brig y sgrin ar lefel y llygad. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio stand gliniadur addasadwy, blwch neu lyfrau os oes angen.

  • Defnyddiwch fysellfwrdd a llygoden ar wahân
    Mae hyn yn galluogi gosod sgrin y gliniadur yn iawn. Efallai y bydd hyn yn gofyn i chi fynd â'ch bysellfwrdd a'ch llygoden adref o'r Swyddfa, ond cytunwch â'ch rheolwr llinell cyn gwneud hynny.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal gwaelod eich cefn 
    Bydd cynnal gwaelod eich cefn is yn helpu i annog osgo da. Gallwch ddefnyddio tywel wedi'i blygu i roi mwy o gynhaliaeth i chi neu ystyriwch glustog cefn os oes angen.

  • Cymerwch seibiannau byr yn rheolaidd:
    • Symudwch o gwmpas am bump neu ddeg munud bob awr, gan anelu am seibiannau byr, aml.
    • Ystyriwch gymryd meicro-seibiannau i ymestyn, symud o gwmpas, newid gweithgaredd drwy gymryd galwad ffôn, gwneud rhywfaint o ddarllen neu ewch i nôl diod er mwyn osgoi aros yn sefydlog am hir.
    • Cymerwch seibiannau yn amlach os nad yw gosodiad eich gweithfan yn ddelfrydol neu os ydych yn profi anghysur.

Ceisiwch osgoi:

  • defnyddio ffonau neu dabledi am amser hir;
  • eistedd ar seddau heb gynhaliaeth fel soffa; ac
  • aros yn llonydd yn rhy hir.

Os ydych yn teimlo unrhyw boen neu anghysur, cwblhewch yr Asesiad Offer Sgrin Arddangos ar iDev, ei anfon at eich rheolwr llinell a’r adran Iechyd a Diogelwch a bydd rhywun mewn cysylltiad.