Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol 2025/26

Mae'r Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol wedi ailagor i geisiadau gael eu cwblhau rhwng dydd Llun 27ain Ionawr 2025 a hanner nos ddydd Llun 3ydd Mawrth 2025. 

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i staff brynu un neu ddwy wythnos ychwanegol o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser), y telir amdanynt mewn rhandaliadau cyfartal dros y misoedd sy'n weddill, rhwng 01 Ebrill 2025 - 31 Mawrth 2026.

  • Bydd cais i brynu wythnos neu bythefnos (pro rata i'r rhai sy'n gweithio'n rhan-amser) yn cael ei ystyried a'i gymeradwyo yn ôl disgresiwn y rheolwr.
  • Ar gyfer cyflogeion â blwyddyn wyliau pen-blwydd, drwy ofyn am brynu gwyliau blynyddol, maent yn cytuno i newid eu blwyddyn wyliau flynyddol i 01 Ebrill - 31 Mawrth i gydymffurfio â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) (2014).

Mae'r cynllun hwn ar gael i bob gweithiwr, ac eithrio:

  • gweithwyr y Cyngor nad ydynt wedi cwblhau 9 mis o wasanaeth parhaus ar adeg gwneud y cais
  • Aelodau Etholedig
  • Gweithwyr sydd ar gontract i weithio yn ystod y tymor yn unig
  • Cyflogeion o dan delerau ac amodau athrawon neu sy'n talu i mewn i'r Cynllun Pensiwn Athrawon
  • Cyflogeion Corff Llywodraethu ysgol
  • Cyflogeion a gwmpesir gan drefniant sy'n bodoli eisoes ar gyfer gwyliau blynyddol, er enghraifft, o dan gytundeb TUPE
  • Gweithwyr Asiantaeth
  • Cyflogeion lle y bydd didyniadau yn cymryd eu taliad misol islaw'r cyflog byw cenedlaethol ar gyfer eu horiau contract

 

Dogfennau Allweddol

 


Diweddaru Amserwedd (Rheolwr Arweiniad)

 

Sut i wneud cais

RHAID cyflwyno ceisiadau trwy Fusion. Dilynwch y canllawiau isod.

 

Dylid anfon ffurflenni wedi'u llenwi at Wasanaethau Gweithwyr AD trwy:

 

Peidiwch â chyflwyno copïau caled. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso ichi gysylltu â ni ar y rhif uchod.