Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rhaglen tenis i ferched sy’n ddechreuwyr yw’r gyntaf, mae wedi ei chynllunio gan Judy Murray, mam seren y byd tenis, Andy Murray. Fel rhan o ymgyrch Merched yn Symud, mae Miss Hits yn targedu merched 5-8 oed ac mae'r sesiynau wedi eu cynllunio i sicrhau bod merched yn datblygu eu sgiliau tenis ond hefyd yn mwynhau ac yn gwneud ffrindiau.
Bydd y sesiwn wythnosol, awr o hyd yn digwydd yng Nghanolfan Hamdden y Barri o ddydd Mawrth 10 Ionawr, rhwng 4pm a 5pm a Penny o Glwb Tenis Cymunedol y Barri fydd yn ei harwain. Mae cwrs 6 wythnos yn costio £30. Dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth, neu sydd am gadw lle gysylltu â Penny ar 07816 311263 neu e-bostio penny@valetennisacademy.co.uk.
Yr ail raglen yw’r rhaglen golff cyn ysgol i blant 2-4 oed. Mewn partneriaeth â Chlwb Golff Parc Cottrell, fel rhan o’u rhaglen Skratch, bydd y sesiynau’n digwydd dros gyfnod o 6 wythnos yr Yr Hyb, YMCA y Barri. Byddant yn cychwyn ar 12 Ionawr ac yn digwydd ar foreau Iau o 9.30am i 10.30am.
Caiff y babanod sy’n chwarae golff gyfle i ddatblygu eu sgiliau symud a'u cydsymud llaw a llygaid trwy sesiynau llawn hwyl a fydd yn costio £3.00. Dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth neu sydd am gadw lle gysylltu â Gareth Bennett (Golf Professional) ar 07980 656659.
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau chwaraeon newydd yn y Fro, dilynwch @VValesportsnews ar Twitter a The Vale Sports & Play Development Team ar Facebook.